Mae Ffolio yn bartneriaeth newydd gyffrous rhwng ffilm Cymru, BBC Cymru, BBC Arts a Chyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn cynnig hyfforddiant, mentora a chyfleoedd comisiynu gan y BBC i unigolion creadigol addawol yng Nghymru sydd heb brofiad proffesiynol ym maes ffilm neu deledu.
Os ydych chi'n ddawnsiwr, blogiwr, cerddor, awdur, ffotograffydd, arlunydd graffiti, dylunydd gemau neu'n greadigol mewn unrhyw ffurf, rydym am glywed gennych.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwch yn cael hyfforddiant, cymorth pwrpasol i ddatblygu eich syniadau ffilm fer a bwrsariaethau ar gyfer costau fel teithio, gofal plant neu ddehonglwr.
Bydd 16 o syniadau'n cael eu comisiynu ar gyfer llwyfannau'r BBC ar yr awyr ac ar-lein.
Yn Gryno
Dyddiadau cau: Y dyddiad cau cyntaf yw 3ydd Chwefror 17:30pm. Bydd dyddiadau cau pellach yn cael eu cyhoeddi.
Hyd y ffilm: 90 eiliad i 5 munud
Nifer y syniadau a fydd yn cael eu comisiynu: hyd at 16 ffilm fer i gyd.
Syniadau: Dylai eich syniad ar gyfer cylch 1 Ffolio fyfyrio ar thema 'Cymru Fodern'. Dylai wthio ffiniau ffilm, boed hynny drwy stori neu arbrofi â sain, delwedd neu strwythur. Gallai gynnwys animeiddio, elfennau dogfen, drama wedi'i sgriptio neu berfformiad. Fodd bynnag, dylai fod modd ei gyflawni o fewn cyllideb gynhyrchu o £5,000.
Darllenwch ein canllawiau llawn i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw beth, ceisiwch gael golwg ar ein Cwestiynau Cyffredin.
Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano neu os ydych chi eisiau trafod rhywbeth, cysylltwch â Caroline ac Amy ar ffolio@ffilmcymruwales.com neu ar 02921679369.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!