Eisiau dysgu Cymraeg? Mae Rhodri Trefor cydlynydd Dysgu Cymraeg Cyngor y Celfyddydau wedi dwyn ynghyd cyfres o gyfleoedd i chi ddysgu Cymraeg, boed yn ddechreuwr, neu dim ond angen cyfle i ymarfer eich Cymraeg neu roi hwb i'ch hyder. Edrychwch ar y dewisiadau isod a cysylltwch gyda Rhodri trwy anfon e-bost ato er mwyn trafod ymhellach.

CYFLEOEDD I WEITHWYR LLAWRYDD

Cwrs Llwybr Carlam

Fyddech chi'n hoffi dysgu Cymraeg o'r dechrau a medru cynnal sgwrs o fewn blwyddyn? Efallai yr hoffech ystyried y cynllun 'llwybr carlam' sy'n dechrau 16 Ionawr 2023.

Mae hyn yn dechrau gyda threulio wythnos breswyl yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, Llŷn, 16-20 Ionawr, gyda chwrs 60 awr o hunan-astudio gyda chymorth tiwtor Cyngor y Celfyddydau, Rhodri Trefor yn dilyn hynny.

Mae'r cwrs am ddim i chi, a byddwn hefyd yn talu am eich amser yn ystod eich cyfnod yn Nant Gwrtheyrn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri.trefor@celf.cymru
 

CYFLEOEDD I UNIGOLION A SEFYDLIADAU CELFYDDYDOL YNG NGHYMRU

Cyrsiau Hunan-astudio

Eisiau dysgu Cymraeg? Beth am achub ar y cyfle i fynychu'r cwrs Mynediad neu Sylfaen yn rhad ac am ddim. Mae'r rhain yn gyrsiau sy’n eich galluogi i  ddysgu ar eich cyflymder eich hun - heb unrhyw bwysau. Bydd ychydig o aseiniadau i'w cyflawni gyda sesiynau adolygu achlysurol gyda'r tiwtor. Ond gall y tiwtor fod yn hyblyg yn unol â'ch anghenion a bydd wrth law i'ch helpu ar hyd y daith. Cyfle gwych i sefydliadau wella sgiliau yn y gweithle a chynnig sgil amhrisiadwy i weithwyr llawrydd.

  1. Cwrs mynediad: Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu deall patrymau iaith syml gan gynnwys y presennol, y gorffennol, a'r dyfodol, a geiriau ac ymadroddion bob dydd.
  2. Cwrs sylfaen: Ar ddiwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu trafod y presennol, y gorffennol, a'r dyfodol yn hyderus.  Byddwch yn gallu trafod pynciau fel ffrindiau, teulu, gwaith, a diddordebau amser hamdden.
     

Cyfle gwych i ddysgu ar eich cyflymder eich hun, heb unrhyw bwysau, o gysur eich cartref neu swyddfa.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri.trefor@celf.cymru

Cyrsiau Cymraeg

Cyrsiau patrwm dysgu traddodiadol yw'r rhain sy'n cael eu cynnig gan diwtor Cyngor y Celfyddydau - 2 awr yr wythnos yn ystod oriau gwaith arferol (9-5).

Poeni am amser? Gorfod colli ambell sesiwn? Galwadau gwaith yn ei gwneud hi'n anodd ar adegau?  Dim problem.  Wrth gwrs, rydym yn disgwyl ymroddiad a gwaith caled, ond rydyn ni'n deall pa mor anodd mae'n gallu bod weithiau o fod yn gweithio ym maes y celfyddydau. O ganlyniad, byddwn yn eich cefnogi gyda  sesiynau "dal i fyny".
 

Ddim yn siŵr o'ch lefel chi? Gallwn eich asesu a darparu cyngor.

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru

Magu hyder

Siarad Cymraeg? Wedi colli’r hyder i'w ddefnyddio? Dim cyfle i ymarfer? Neb yn siarad Cymraeg yn y gwaith? Gallwn helpu.

Cysylltwch â ni! Ffordd dda o ennyn diddordeb a chymdeithion eraill ym maes y Celfyddydau.  Rhannwch eich pryderon. Gallwn deilwra a darparu cyrsiau a fydd yn hwyl i chi. Cyfle da i ymarfer a chael hwyl ar yr un pryd. 

Bydd dan arweiniad tiwtor am 2 awr dros 10 sesiwn. Gallwn ni wneud sesiynau sy'n berthnasol i'ch maes e.e. sgriptio, gwaith celf, trafod llenyddiaeth...  Rydyn ni'n barod i ystyried pob awgrym!
 

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru

Sesiynau i ymarfer Siarad Cymraeg

Hoffech chi ymarfer eich Cymraeg dros baned o goffi? Trefnu amser wythnosol gyda phartner arall i gael sgwrs anffurfiol a rhoi'r byd yn ei le?  Dyma'r cyfle i chi wella eich Cymraeg llafar ac i ddod i adnabod rhywun newydd.

Siaradwyr Cymraeg: Fuasech chi’n hoffi cyfrannu at helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn fwy hyderus a rhugl yn y Gymraeg?  Dyma gyfle gwych i wella ac atgyfnerthu'r celfyddydau yng Nghymru.   Byddem ni -  a'r dysgwyr - yn hynod ddiolchgar o dderbyn eich cefnogaeth a byddwch yn cyfrannu'n uniongyrchol hefyd at wireddu'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
 

Am wybodaeth bellach cysylltwch Rhodri.trefor@celf.cymru