Cynhelir yr adolygiadau buddsoddi bob pum mlynedd ac maent yn penderfynu pa sefydliadau y bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn eu hariannu yn y pum mlynedd nesaf. Mae'r penderfyniadau’n bwysig a phellgyrhaeddol. Felly, rydym ni'n gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr bod ein prosesau’n glir, yn deg ac yn rhesymol.

Mae'r ddogfen isod yn cynnwys ein hadborth ar yr ymarfer ymgynghori cyntaf a gynhaliwyd fel rhan o'n proses Adolygiad Buddsoddi 2020.

Roedd yr ymgynghoriad wedi agor ar 1 Tachwedd 2019 a daeth i ben ar 10 Ionawr 2020.

Rydym ni’n gwybod eich bod wedi buddsoddi llawer o amser ac egni wrth ymateb. Mae’r dogfennau terfynol yn well o lawer oherwydd hyn. Hoffwn ni ddiolch yn ddiffuant ichi.

Adolygiad Buddsoddi 2020: Ymateb i’r Ymgynghoriad

 

Beth yw'r Adolygiad Buddsoddi 2020?

Dyma'r broses a ddefnyddiwn i ddewis y grŵp o sefydliadau a fydd yn rhan o'n Portffolio Celfyddydol Cymru yn y dyfodol. Darllenwch fwy am Adolygiad Buddsoddi 2020 yma.