Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Eleni mae’n bleser gennym groesawu Mudiad Meithrin i ymuno ac edrychwn ymlaen at weithio gyda llawer mwy o leoliadau Cymraeg.
Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau a phrofiadau dysgu a all ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3-5 oed.
Mae gan y fenter dri nod:
- dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol
- deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plentyn
- cyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariennir a nas cynhelir, gydag addysgeg yr Arferion Creadigol y Meddwl, yn ogystal a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol
Mynegiant o Ddiddordeb
Hoffem glywed gan Weithwyr Creadigol Professiynol sydd efallai â phrofiad o/neu sydd â diddordeb mewn gweithio gyda’r lleoliad Blynyddoedd Cynnar a’u plant (3 - 5 oed)
Byddwn yn coladu enwau, e-byst, gwefannau, ffurf celfyddyd, iaith cyflwyno a gwybodaeth am leoliadau i'w cynnwys mewn cronfa ddata Ymarferwyr Creadigol. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon â lleoliadau Blynyddoedd Cynnar sy’n cymryd rhan a’u Asiantwyr Creadigol a fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon fel rhan o’u proses recriwtio a hysbysebu, sy’n cynnwys anfon gwybodaeth am eu prosiectau a gwybodaeth am sut i wneud cais i weithio fel Ymarferydd Creadigol gyda nhw.
Yn ogystal â'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu ar gyfer y gronfa ddata rydym hefyd yn gofyn dau gwestiwn i ddweud wrthym am eich profiad blaenorol a pham yr hoffech gael eich cynnwys. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wirio eich addasrwydd i’w chynnwys yn y gronfa ddata ac ni fydd yn cael ei rhannu â lleoliadau Blynyddoedd Cynnar nac Asiantwyr Creadigol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich cynnwys yn y gronfa ddata hon, llenwch y ffurflen isod. Sylwch, nid yw mynegiant o ddiddordeb yn goygu gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd eich dewis iaith yn oedi unrhyw ohebiaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 5.00pm 13 Tachwedd 2023.
Amserlen
Dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb: 5.00pm 13 Tachwedd 2023.
Bydd lleoliad Blynyddoedd Cynnar yn dechrau recriwtio Ymarferwyr Creadigol: 28 Tachwedd 2023 – 1 Chwefror 2024
Hyfforddiant ar gyfer Ymarferwyr Creadigol llwyddiannus (lleoliad i’w gadarnhau): 5 Chwefror 2024
Cyfnod cyflawni: 8 Ebrill – 14 Mehefin 2024
Digwyddiad Rhannu a Gwerthuso: Wythnos 24 Mehefin 2024
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â:
Tîm Dysgu creadigol – dysgu.creadigol@celf.cymru