Cefndir

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn.

Bydd y fenter yn dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau dysgu a phrofiadau sy’n ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3 – 5 oed, gan gyfoethogi eu creadigrwydd, eu hymgysylltiad a’u hymdeimlad o ryfeddod a pherthyn.

Mae gan y fenter dri nod:

  • dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol
  • deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plentyn.
  • cyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariennir a nas cynhelir, gydag addysgeg yr Arferion Creadigol y Meddwl, yn ogystal a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Mae’r fenter yn cynnwys sesiynau hyfforddi a hwylusir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Mudiad Meithrin. Bydd yr hyfforddiant yn rhyngweithiol ac yn bersonol, a'i nod yw magu hyder wrth archwilio'r tri nod uchod a darparu cyfleoedd i fyfyrio a chydweithio.

Bydd pob lleoliad yn cael ei baru ag Asiant Creadigol (wedi’i ddewis a’i gyflogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru). Bydd yr Asiant Creadigol yn dod i adnabod yr Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar a’u lleoliadau yn gyntaf ac yna’n eu helpu i ddewis Ymarferydd Creadigol addas i ddod i gydweithio ochr yn ochr â nhw yn eu lleoliadau, a gyda’u plant 3 – 5 oed yn cyd-ddylunio a chyd-weithredu'r prosiect 10 wythnos o hyd.

Bydd y prosiectau’n cael eu dylunio gan ganolbwyntio ar un neu fwy o’r egwyddorion canlynol:

Datblygu iaith a llawer o ddulliau mynegiant plant ifanc - Mae gan blant lawer o ieithoedd i fynegi eu hunain a dylid cydnabod a gwerthfawrogi'r rhain. Mae'r ieithoedd hyn, gan gynnwys iaith lafar, yn tarddu ac yn datblygu trwy brofiadau.

Chwarae a dysgu chwareus - Mae chwarae a dysgu chwareus yn rhan annatod o bob un ohonom. Trwy chwarae bydd plant yn perthnasu eu bydoedd mewnol o syniadau, teimladau a phrofiad, gan fynd â nhw i lefelau newydd o feddwl, teimlo, dychmygu a mynegi.

Ymwneud â byd natur a dysgu yn yr awyr agored – Mae’r byd naturiol yn darparu amgylchedd sy’n gyfoethog o ran potensial i feithrin twf a lles corfforol, emosiynol a gwybyddol plentyn. Mae’r chwilfrydedd naturiol a’r ysgogiad synhwyraidd a ddarperir gan ymgysylltu gyda byd natur a’r awyr agored yn galluogi cysylltiad gynyddol gyda’n hamgylchedd naturiol.

Datblygiad corfforol a hyder wrth archwilio – Mae archwilio yn ysgogi datblygiad corfforol ac yn annog plant i ddefnyddio eu synhwyrau. Mae hefyd yn helpu plentyn i ddod yn fwy actif yn naturiol.

Creadigrwydd, y celfyddydau a chynrychiolaeth symbolaidd – Mae creadigrwydd a’r celfyddydau yn rhoi’r cyfle i blant archwilio a chyfleu eu syniadau, eu meddyliau a’u profiadau yn eu ffordd unigryw eu hunain. Mae plant ifanc yn defnyddio nifer o ffurfiau gwahanol cyn i ffurfiau llythrennol ddod yn fwy amlwg.

Sylwi a chefnogi plant fel dysgwyr annibynnol - Mae pob plentyn yn unigryw yn eu profiad datblygol o'r byd, eu diddordebau, eu chwilfrydedd, eu galluoedd a'u potensial. Mae plant yn dysgu orau trwy wneud pethau drostynt eu hunain. Drwy hyn, maent yn gallu dod yn ddatryswyr problemau, gallu gwneud penderfyniadau, a magu hyderus.

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn adeiladu ar y Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae'r cynllun hwnnw wedi gweithio gyda thros 700 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae’r cynllun wedi cefnogi ysgolion i feithrin creadigrwydd dysgwyr ac wedi cefnogi eu teithiau cwricwlaidd.

Os hoffech i'ch lleoliad blynyddoedd cynnar gael ei ystyried, cyflwynwch eich Datganiad o Ddiddordeb (ffurflen fer yn gofyn cyfres fer o gwestiynau a ddefnyddir i gysylltu â chi a deall eich prif ddiddordebau) gan ddefnyddio dolen Ffurflen Google.

Dylid cyflwyno pob Mynegiant o Ddiddordeb erbyn 5pm 4 Hydref 2023.

Dyddiad cau cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb

5pm 4 Hydref 2023.

Sesiynau hyfforddi – presenoldeb yn hanfodol

Wythnos 20 Tachwedd - hanner diwrnod ar-lein

Wythnos 5 Chwefror - 1 diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb

Cyfnod cynllunio

Yn cynnwys recriwtio Ymarferwyr Creadigol a chyflwyno ffurflen gynllunio

28 Tachwedd tan 8 Mawrth

Cyfnod gweithredu’r gwaith

8 Ebrill - 14 Mehefin (peth gorgyffwrdd â'r cyfnod gwerthuso)

Digwyddiad Rhannu a Gwerthuso

Yn cynnwys cyflwyno ffurflen Werthuso

Wythnos 24 Mehefin - digwyddiad rhannu/gwerthuso

Mae'n hanfodol bod yr Ymarferwr Blynyddoedd Cynnar a enwebir yn dod i'r hyfforddiant.

Bydd pob lleoliad yn derbyn £125 ynghyd â chostau teithio i dalu costau un aelod o staff, yr Ymarferydd arweiniol yn y prosiect i fynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb pellach yn ystod wythnos 5 Chwefror 2024.

Cymorth

Cymhwysedd

Mae dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn agored i leoliadau nas cynhelir sy’n gweithio gyda phlant 3 – 5 oed.

I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i'ch lleoliad fod yn:

  • elusen gofrestredig gyda phwyllgor a reolir yn wirfoddol a chofrestriad AGC ar gyfer gofal plant
  • aelod o Blynyddoedd Cynnar Cymru a/neu Fudiad Meithrin
  • cynnig Hawl Blynyddoedd Cynnar

Bydd pob lleoliad yn derbyn grant o £2,500 tuag at y gost o gyflogi Ymarferwr Creadigol am gyfnod sy'n cyfateb i 7 diwrnod a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect. Er mwyn derbyn y grant hwn rhaid i bob lleoliad gael cyfrif banc busnes.

Gwybodaeth Bellach

Mae dysgu creadigol yn y blynyddoedd cynnar yn fenter tair blynedd gyda'r nod o ymgysylltu â chyfanswm o 70 o leoliadau gofal plant. Rydym yn rhagweld gweithio gyda 25 o leoliadau dros y cyfnod nesaf hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’r isod:

Tîm Dysgu Creadigol – creative.learning@arts.wales  

Moya Williams, Blynyddoedd Cynnar Cymru - moyaw@earlyyears.wales

Helen Williams, Mudiad Meithrin - helen.williams@meithrin.cymru