Gan adeiladu ar lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf, mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfle pellach i leoliadau Blynyddoedd Cynnar nas cynhelir sy’n gweithio gyda phlant 3 – 5 oed fod yn rhan o raglen sefydledig Dysgu Creadigol Cymru.

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Mae’n dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau a phrofiadau dysgu a all ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3-5 oed.

Mae gan y fenter dri nod:

  • dod ag ymarferwyr blynyddoedd cynnar ac ymarferwyr creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol
  • deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plentyn.
  • cyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariennir a nas cynhelir, gydag addysgeg yr Arferion Creadigol y Meddwl, yn ogystal a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Beth fydd y cynnig yn ei olygu

  • Bydd y fenter yn dechrau gyda chwrs hyfforddi undydd wyneb yn wyneb a chwrs hyfforddi ar-lein hanner diwrnod a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Mudiad Meithrin gyda chyfleoedd ychwanegol i fyfyrio a rhwydweithio.
  • Bydd yr hyfforddiant hanner diwrnod ar-lein yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 20 Tachwedd 2023. Bydd yr hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 5 Chwefror 2024.
  • Caiff pob lleoliad ei baru ag Asiant Creadigol i ddylunio prosiect dysgu creadigol a fydd yn archwilio chwe egwyddor y fenter.
  • Bydd yr Asiant Creadigol yn cefnogi recriwtio Ymarferwr Creadigol, neu artist, a fydd yn cyd-gyflawni'r prosiect dros gyfnod o 10 wythnos yn gweithio gyda'r plant 3 – 5 oed o fewn y lleoliad.
  • Mae sesiwn hyfforddi hanner ffordd ar gyfer yr Ymarferydd arweiniol o bob lleoliad.
  • Bydd dathliad cydweithredol terfynol a sesiwn rhannu yn digwydd ar ddiwedd mis Mehefin 2024.

Cyllid a chefnogaeth

Bydd pob lleoliad yn derbyn 4 diwrnod o gefnogaeth gan Asiant Creadigol.

Bydd pob lleoliad yn derbyn grant o £2,500 tuag at y gost o gyflogi Ymarferwr Creadigol (artist) am gyfnod sy'n cyfateb i 7 diwrnod a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect.

Bydd pob lleoliad yn derbyn £125 ynghyd â chostau teithio i dalu am gost un aelod o staff, yr Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar arweiniol yn y prosiect i fynychu hyfforddiant yn ystod wythnos 5 Chwefror 2024.

Cymhwysedd

Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn agored i leoliadau nas cynhelir sy’n gweithio gyda phlant 3 – 5 oed.

I fod yn gymwys i wneud cais rhaid i'ch lleoliad fod yn:

  • Elusen gofrestredig gyda phwyllgor a reolir yn wirfoddol a chofrestriad AGC ar gyfer gofal plant
  • Aelod o Blynyddoedd Cynnar Cymru a/neu Fudiad Meithrin
  • cynnig Hawl Blynyddoedd Cynnar

Sut i wneud cais

Diwrnod cau cyflwyno Mynegiant o ddiddordeb yw 5pm 4 Hydref 2023.

Timeline

Dyddiad cau cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb

5pm 4 Hydref 2023.

Sesiynau hyfforddi – presenoldeb yn hanfodol

Wythnos 20 Tachwedd - hanner diwrnod ar-lein

Wythnos 5 Chwefror - 1 diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb

Cyfnod cynllunio

Yn cynnwys recriwtio Ymarferwyr Creadigol a chyflwyno ffurflen Gynllunio

 

28 Tachwedd tan 8 Mawrth

Cyfnod gweithredu’r gwaith

8 Ebrill - 14 Mehefin (peth gorgyffwrdd â'r cyfnod gwerthuso)

Digwyddiad Rhannu a Gwerthuso

Yn cynnwys cyflwyno ffurflen Werthuso

Wythnos 24 Mehefin - digwyddiad rhannu/gwerthuso

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â:

Tîm Dysgu Creadigol – dysgu.creadigol@celf.cymru

Moya Williams, Blynyddoedd Cynnar Cymru - moyaw@earlyyears.wales

Helen Williams, Mudiad Meithrin - helen.williams@meithrin.cymru