Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd nifer o flaenoriaethau mewn ymateb i’r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru – yr ymgynghoriad mwyaf o’i fath. Roedd yr adolygiad yn amlygu’r egni a’r creadigrwydd sy’n gyrru’r sîn, ond hefyd yn nodi’r pryder am ddarpariaeth ar lawr gwlad, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc a grwpiau aml-genhedlaeth ar draws ein cymunedau, gan alw am fwy o gyfleoedd anffurfiol ar lefel leol. Rhai o’r argymhellion eraill oedd rhoi rôl gryfach i gerddoriaeth draddodiadol mewn addysg, creu llwybrau cliriach i gerddorion, targedu tŵf o fewn cynulleidfaoedd penodol, a chefnogaeth gynhwysol ar draws ein cymunedau diwylliannol.

Ers hynny, rydym wedi gweithio’n chwim gyda phartneriaid i ddechrau troi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu.

Buddsoddiad newydd mewn cerddoriaeth draddodiadol 

Gyda’n cefnogaeth ni, mae Tŷ Cerdd yn lansio Wilia: Sgyrsiau mewn Cerddoriaeth Draddodiadol yn ystod yr hydref. Dyma gangen hollol newydd o weithgarwch cerddoriaeth draddodiadol dan arweiniad Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol newydd Tŷ Cerdd, sef Jordan Price Williams, mewn swydd newydd sbon wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y fforwm misol ar-lein hwn yn dod â cherddorion, trefnwyr a chymunedau at ei gilydd i rannu syniadau a llunio dyfodol y traddodiad. Cynhelir y sesiwn Wilia gyntaf ddydd Llun 6 Hydref 2025. Mae gwybodaeth lawn ar gael yma. Bydd y sgyrsiau hyn yn helpu i lunio cronfa newydd gwerth £200,000 i brosiectau cerddoriaeth draddodiadol, fydd yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2026.

Dywedodd Jordan Price Williams, Rheolwr Datblygu Cerddoriaeth Draddodiadol Tŷ Cerdd:


“Ers lansio’r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol, rydym wedi gweld sgyrsiau a chydweithio cyffrous yn dechrau digwydd. Mae gwir deimlad o fomentwm ac mae heddiw yn teimlo fel y diwrnod addas i rannu gobaith ac uchelgais ar gyfer dyfodol ein traddodiadau byw. Eleni byddwn yn gweld amrywiaeth eang o ddigwyddiadau’n dathlu’r celfyddydau traddodiadol ar draws Ewrop – ac mae Cymru’n chwarae rhan balch yn hyn o beth. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau dwys a theimladwy Jeremy Dutcher ym Methesda ac yn Ystradgynlais, lle rhannodd gerddoriaeth draddodiadol pobl Wolastoqiyik gyda chynulleidfaoedd yma yng Nghymru, a’r dathliad llawen o’r ffidil Gymreig yn Ffidil Fawr yn Sir Benfro.”

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi dyrannu arian Loteri ychwanegol yn 2025/26 yn benodol ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol o bob math. Gall sefydliadau wneud cais o dan gronfeydd presennol Tŷ Cerdd – Creu, Ymgysylltu neu Ysbrydoli – gyda chanllawiau ar gael ar dudalen cyllid Loteri Tŷ Cerdd. Y dyddiadau cau terfynol ar gyfer y rownd hon o gyllid yw 15 Hydref 2025 a 21 Ionawr 2026.

Cryfhau traddodiadau dawns werin 

Roedd Adolygiad Dawns Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer dawns werin. 

Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru:
“Croesawyd yn gynnes y ddau Adroddiad Adolygu diweddar ar Gerddoriaeth a Dawns Draddodiadol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’n galonogol darllen yn yr adroddiadau hyn fod ein llais wedi’i glywed. Rydym wedi cefnogi’r Prosiect WYTH arloesol, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth ein Cronfa Cysylltu a Ffynnnu, ac sydd newydd gael cyllid Creu i gefnogi ei gam nesaf o ddatblygiad.”

Mae Prosiect WYTH yn falch o fod wedi derbyn grant gan y Gronfa Creu drwy’r Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru, sy’n ein galluogi i barhau i hyrwyddo dawns draddodiadol am flwyddyn arall. Mae hwn yn gam mawr ymlaen at godi proffil dawnsio Cymreig. Mae'n wych gallu cynnig cyfle, ac yn bwysicach byth -  cyflogaeth, i unigolyn ifanc sy'n frwdfrydig ac angerddol dros ddawnsio traddodiadol. Rydym wrth ein boddau o groesawu ein Swyddog Datblygu newydd, Lleucu Parri, ac mae ein partneriaid oll – Menter Maldwyn, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwlwm Celtaidd, Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a’r llawryddion – yn edrych ymlaen at weithio gyda hi ar brosiectau cyffrous fel TwmpDaith. Ymlaen â’r ddawns! 

Rhian Davies, Swyddog Datblygu gyda Menter Iaith Maldwyn

Ychwanegodd John Idris: “Mae ymgynghori â rhanddeiliaid ynghyd â gwaith arloesol Prosiect WYTH wedi ein hysbrydoli i gyhoeddi Strategaeth Bum Mlynedd, a gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, i ddatblygu’r Gymdeithas a chryfhau’r sector ymhellach. Mae’n gyfnod cyffrous ym myd dawns werin a stepio yng Nghymru.” 

Ychwanegodd Sioned Edwards ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn falch iawn o barhau i fod yn un o brif bartneriaid Prosiect WYTH, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu comisiwn dawns newydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro yn 2026. Mae’r Eisteddfod mor falch o fod yn rhan o brosiect sy’n darparu llwyfan i feithrin talent greadigol ym maes dawns draddodiadol Cymru.” 

Mae copi o Strategaeth Bum Mlynedd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru ar gael yma. 

Bydd hefyd gyfle i bobl ifanc ymgysylltu â cherddoriaeth a dawns draddodiadol yng Nglan-llyn ym mis Hydref drwy Gwerin Gwallgo (11–18 oed) a yn mis Tachwedd drwy Gwerin Iau (8–13 oed), gyda chefnogaeth y Gronfa Creu, a gyflwynir gan Trac Cymru mewn partneriaeth â’r Urdd. 

Edrych ymlaen 

O ffrydiau cyllido newydd i fforymau cydweithredol a phrosiectau dawns uchelgeisiol, mae’r ymateb i’r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol eisoes yn gyrru newid ystyrlon. 

Ers cyhoeddi’r Adolygiad Cerddoriaeth Draddodiadol yn gynharach eleni, mae wedi bod yn galonogol gweld pa mor gyflym mae’r sector wedi ymateb. Gyda chyfleoedd cyllido newydd bellach ar waith, rôl benodol yn Nhŷ Cerdd, a phrosiectau fel Prosiect WYTH yn mynd o nerth i nerth, mae gwir fomentwm yn adeiladu. Mae’r datblygiadau hyn yn dangos beth allwn ei gyflawni pan yr ydym yn gwrando ar y sector ac yn gweithio mewn partneriaeth. Wrth edrych ymlaen, ein ffocws yw cynnal yr egni hwnnw a sicrhau bod cerddoriaeth a dawns draddodiadol yn parhau i ffynnu fel grymoedd hanfodol a chreadigol o fewn diwylliant Cymru.

Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru