Ac i lawr y stryd a nhw...! Mae cwmni theatr arobryn Caerdydd nôl ar daith gyda'r darn theatr stryd cwbl newydd 'Grumpy Unicorns'. Bydd y sioe yn ymddangos yng ngŵyl Alles Muss Raus! yn Kaiserlautern rhwng 11-12 Medi 2021.
Bron i 2 flynedd ers i'r cwmni gallu gadael Cymru, mae'r Uncyrn yn ysu i fynd ar daith.
Mor brydferth â lloergan, mae gan uncyrn lle arbennig yn ein dychymyg. Er nid yn ein dychymyg y maen nhw go iawn - mae uncyrn yn bodoli! Ond, mae ganddyn nhw asgwrn i’w grafu.
“’Dy ni’n uncyrn, jyst gad ’e fod. ’Dy ni’n gwybod be' da chi moyn: i roi maldod i ni a thynnu lluniau a defnyddio’n hud ni. Ond, ’dy ni ’di cael digon! Jyst gad i ni fod.”
Dyna'n union yw 'Grumpy Unicorns'; yr hud o ddarganfod bod uncyrn yn bodoli (!), a'r canlyniad o ddynoliaeth yn methu i’w cymryd nhw o ddifrif.
Bydd 4 yng nghast y perfformiad gan gynnwys actorion Hijinx Academi'r De Fiona Wilson a Jonathan Pugh ynghyd a'r clown godidog George Orange a'r person a thaniodd y syniad Ellen Groves.
Dangosodd 'Grumpy Unicorns' am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Chapter (Caerdydd) ym mis Gorffennaf, a dyma beth ddywedodd rhai o'r gynulleidfa:
"Dyma bersbectif cwbl newydd i uncyrn gan Hijinx, mae'n un llawn creadigrwydd, hiwmor a hwyl. Byddwch yn siŵr o fwynhau!"
"Grêt i gael sioeau byw unwaith eto, yn enwedig rhywbeth mor llawen ag uncyrn fflwfflyd! Mae'n glir bod y gynulleidfa a'r perfformwyr wedi mwynhau."