O’r 20 Medi 2021, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn derbyn ceisiadau ar gyfer trydydd rownd cronfa Cysylltu a Ffynnu – sef cronfa o arian y Loteri Genedlaethol â'r nod o hyrwyddo prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol proffesiynol.  

Gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb o'r 20 Medi ymlaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb yw 5pm 11 Hydref. Byddwn wedyn yn gwahodd ac yn cefnogi cynigion llwyddiannus i gyflwyno cais llawn ym mis Ionawr 2022.

Math newydd o gronfa yw Cysylltu a Ffynnu sy'n annog ymgeiswyr am gyllid i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o greu gwaith a chysylltu â chynulleidfaoedd er gwaethaf sialensiau Covid.  Ffocws penodol y rhaglen yw creu rhagor o gyfleoedd i’r lleisiau hynny nad ydynt yn cael eu clywed fel y gallant helpu i wneud y celfyddydau yng Nghymru'n decach ac yn fwy cynrychiadol ac agored i bawb. Mae'r rhaglen yn cynnig grantiau gwerth rhwng £500 a £150,000 i brosiectau â phwyslais cadarn ar gydweithio rhwng artistiaid unigol, grwpiau nad ydynt yn grwpiau celfyddydol, a sefydliadau'r celfyddydau. Nod y gronfa yw denu syniadau newydd a fydd yn cynorthwyo artistiaid i ategu sector celfyddydol cadarn a gwydn sy'n rhoi adlewyrchiad teg o bobl a chymunedau ein gwlad.

Mae nodiadau canllaw ar gyfer y gronfa i'w gweld ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru yma. Mae Cyngor y Celfyddydau'n cyflwyno gwelliannau i'w broses ymgeisio hefyd er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hwylus i'r defnyddwyr.  Bydd gofyn i ymgeiswyr newydd gofrestru i gael cod a fydd yn eu galluogi i fynd i’r porth rheoli grantiau. 

I gofrestru er mwyn defnyddio porth grantiau Cyngor y Celfyddydau a gwneud cais am arian Cysylltu a Ffynnu, ewch i https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/sefydliadau/cysylltu-ffynnu.

Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i'r cod cofrestru gyrraedd, felly gofynnir i ddarpar- ymgeiswyr ganiatáu amser ar gyfer hyn wrth gynllunio. Os gewch chi unrhyw drafferthion gyda chofrestru neu'r broses ymgeisio yna e-bostiwch grantiau@celf.cymru os gwelwch yn dda er mwyn holi am gymorth.