Mae'r byd yn edrych yn wahanol iawn heddiw nag oedd cyn COVID-19. Mae llawer o leoliadau yn dal i fod ar gau ac mae gweithwyr llawrydd unigol heb waith. Felly, rydym yn chwilio am brosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r amodau newydd sy'n debygol o fodoli wrth i gyfyngiadau symud COVID-19 gael eu llacio. Nid 'busnes fel arfer' sydd dan sylw yma – yn hytrach, dyma gyfle i edrych o'r newydd ar sut y gallwn greu sector y celfyddydau cryf a chadarn sy'n adlewyrchu'n gywir yr ystod ehangaf bosibl o'n pobl a'n cymunedau yma yng Nghymru. Dyma rydym yn ei olygu pan soniwn am 'ailddechrau'.
Beth yw Cysylltu a Ffynnu?
- Mae Cysylltu a Ffynnu yn ariannu'r gwaith o ddatblygu cynigion gan sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd. Rydym yn chwilio am brosiectau uchelgeisiol a chyffrous a arweinir gan artistiaid, sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa neu gyfranogwyr, ac sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd.
- Nod Cysylltu a Ffynnu yw creu cyfleoedd i artistiaid unigol a gweithwyr creadigol proffesiynol o bob cefndir weithio gyda sefydliadau partner creadigol. Hoffem i chi nodi ffyrdd newydd o weithio a fydd yn helpu i ddangos sut y gall y celfyddydau ateb heriau pandemig COVID-19.
- Mae Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi'r nodau yn ein cynllun corfforaethol, "Er Budd Pawb". Elfen hynod bwysig yw darganfod ffyrdd arloesol o weithio sy'n cynnig ymatebion newydd a chadarnhaol i'r angen i'r celfyddydau yng Nghymru ymateb mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon i'r heriau a nodwyd gan Mae Bywydau Du o Bwys a #WeShallNotBeRemoved. Hon yw'r adeg i 'ailddechrau'.
- Deallwn ei bod hi'n cymryd amser ac ymdrech i ddatblygu cynigion uchelgeisiol. Os mai megis dechrau dwyn eich syniadau a phartneriaid ynghyd yr ydych, gallwch wneud cais am gyllid datblygu fel bod gennych yr adnoddau i wneud hyn yn iawn.
- Gallwch wneud cais am grant o £500 i £150,000. Gellir gwneud cais ar ddwy adeg wahanol yn 2020/21, a gellir gwneud ceisiadau pellach yn 2021/22. Bydd y ceisiadau nesaf yn agor ar 17eg o Chwefror ac yn cau ar 17eg Mawrth. Bydd cyfleoedd pellach Cysylltu a Ffynnu yn hwyrach yn 2021. Bydd y rhaglen hon yn galluogi syniadau i ddatblygu'n naturiol dros gyfnod hwy. Cewch hyd at 24 mis i gyflawni eich prosiect os mai dyna sydd ei angen arnoch.
- At ddibenion gweinyddol, bydd angen 'prif' sefydliad arnom i gyflwyno'r cais a rheoli'r cyllid ar ran partneriaeth y prosiect. Nid oes angen dewis y partner sy'n bennaf cyfrifol am gyflawni'r prosiect fel 'prif' sefydliad – byddem yn croesawu enghreifftiau lle yr arweinir gweithgarwch y prosiect gan artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol.
- Credwn y dylai cyllid cyhoeddus gyflawni diben diwylliannol a chymdeithasol. Felly, bydd disgwyl i bopeth a gefnogir drwy'r Gronfa hon ddangos ymrwymiad i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru a'r 'Contract Diwylliannol'.
- Byddwn yn gwneud ein gorau i weithio gyda chi drwy'r prosiect, gan eich cefnogi lle y gallwn i gyflawni eich gweledigaeth.
- Rydym yn anelu at benderfynu ar geisiadau o fewn 12 wythnos i'r dyddiad cau. Os bydd nifer y ceisiadau a gawn yn golygu na ellir cyflawni hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.
- Cyllideb y Gronfa hon yw £5 miliwn dros ddau gylch y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn bosibl drwy arian wedi'i ddosbarthu gan Gyngor Celfyddydau Cymru o elw'r Loteri Genedlaethol.
- Mae'n debygol y bydd cystadleuaeth am yr arian sydd ar gael ac efallai na fyddwn yn gallu ariannu'r holl geisiadau cymwys a gawn. Felly ni ellir gwarantu y bydd gwneud cais yn golygu eich bod yn cael yr holl arian, neu beth o'r arian, sydd ei angen arnoch.
- Bydd ein penderfyniadau cyllido yn cael eu llywio gan unrhyw ganllawiau, polisïau neu gyfyngiadau COVID-19 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n gymwys ar y pryd.
Am restr llawn o dderbynwyr rownd gyntaf Cysylltu a Ffynnu CLICIWCH YMA
Mae Cyngor y Celfyddydau'n cyflwyno gwelliannau i'w broses ymgeisio er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hwylus i'r defnyddwyr. Byddwn yn cyflwyno porth rheoli grantiau newydd . Gweler isod gyflwyniad byr i ddangos y porth.
Rydym yn cyflwyno gwelliannau i'r broses ymgeisio hefyd er mwyn ei gwneud yn symlach ac yn fwy hwylus i'r defnyddwyr.
NODWCH: Os ydych chi wedi ymgeisio i ni o’r blaen fel sefydliad, byddwn yn ebostio côd gwared i gofrestru ar y system newydd at gyfeiriad prif gyswllt eich sefydliad yn yr hen system. Peidiwch ceisio cofrestru ar y system newydd cyn derbyn y côd yma os gwelwch yn dda, ac os nad ydych yn derbyn un cysylltwch â ni grantiau@celf.cymru.
Yn ystod y misoedd cynnar efallai y byddwn yn cael ychydig o drafferthion technegol â’r porth newydd, ac felly efallai yr hoffech aros ychydig ddyddiau cyn cychwyn eich cais er mwyn caniatáu inni ddatrys unrhyw broblemau cychwynnol.
Yn y cyfamser, os hoffech weithio ar eich cais mi welwch y cwestiynau yn y Canllawiau. Bydd modd ichi gopio a gludo y testun i’r ffurflen ar-lein yn barod i’w gyflwyno erbyn y dyddiad cau, sef 17 Mawrth.
Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i'r cod cofrestru gyrraedd, felly gofynnir i ddarpar ymgeiswyr ganiatáu amser ar gyfer hyn wrth lunio cais.
Os cewch chi unrhyw drafferthion gyda chofrestru neu'r broses ymgeisio, e-bostiwch grantiau@celf.cymru i ofyn am gymorth. Croesawn unrhyw adborth.
Ceisiadau'n cau am 5:00 yr hwyr, 17 Mawrth 2021.