Mae Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnal cyfweliad arbennig i ffarwelio â Nick Capaldi, y Prif Weithredwr sydd newydd ymadael o'i swydd. Mae'r cyfweliad yn myfyrio ar yrfa Nick ac yn dilyn ei daith o'i ddyddiau fel pianydd yn Ysgol Chetham yng ngogledd Lloegr, oddi yno i'r Coleg Cerdd Brenhinol, a'i yrfa ym maes y celfyddydau gyda South West Arts a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Mae'r cyfweliad yn ystyried ei 13 mlynedd wrth y llyw gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn cynnwys teyrngedau oddi wrth rhai o'i gyd-weithwyr yn y sector gelfyddydol.