Yn ogystal â llu o gerddoriaeth wych, llawer ohoni am ddim i'w gweld yn y tafarndai lleol, mae gan Ŵyl Boia, Tyddewi, Lwybr Celf yr ŵyl yng Nghapel a festri Seion, Stryd Newydd. Mae'r arddangosfeydd am ddim i'r cyhoedd.
Mae ffilm arbrofol fer Artist Preswyl Ben Llwyd eleni, Gorllewin Lloegr 2033, yn adeilad festri'r capel.
Yn y capel ei hun mae gosodiad celf Silent Seas gan Molly McLeod, animeiddiad a cherdd fer y darlunydd Harri Hampson, Upon a Clifftop, a gosodiad LPOL, “What is the right question?”.
Mae'r rhain ar agor 12-6pm ar ddydd Gwener 24ain, 10am-6pm ar ddydd Sadwrn a Sul 25/26 Hydref. Ymhellach tuag at Neuadd y Ddinas yn Stiwdio 6, Stryd Newydd, mae Paintings of Boia Acts gan Tony Kitchell, y bandiau o wyliau blynyddoedd blaenorol wedi'u peintio wrth iddynt berfformio'n fyw! Ar agor Sadwrn 25/Sul 26ain 9.30am i 6pm.
Am fwy o fanylion ewch i'r wefan https://boiafestival.co.uk