Mae'r alwad yn dilyn ymrwymiad o'r newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i arddangos celf o Gymru ym Miennale Fenis yn 2026 ac yn rhai’r dyfodol yn 2028 a 2030.
Ar ben yr arddangosfa yn Fenis, rydym yn disgwyl i'r gwaith gael ei rannu'n ddigidol a chorfforol yng Nghymru.
Mae’r Cyngor wedi comisiynu arddangosfeydd ym Miennale Fenis naw gwaith gan ddechrau yn 2003. Y tro diwethaf oedd arddangosfa Sean Edwards, Undo Things Done yn 2019. Yn dilyn y pandemig, roedd seibiant ym mhresenoldeb y Cyngor yno yn 2022. Yn lle roedd Cymru Fenis 10, cyfuniad o ddeg cymrodoriaeth unigol i'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau gweledol, a chomisiynau drwy Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru.
"Mae Biennale Fenis yn gyfle all ddiffinio gyrfa i artistiaid o Gymru ar y llwyfan byd-eang, ac yn blatfform mawreddog sy'n gallu trawsnewid llwybr artistig a chryfhau lleisiau creadigol yn rhyngwladol," meddai Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr Celfyddydau newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
"Rydym wedi gwrando ar y sector a byddwn yn cynnal Cymru yn Fenis yn La Biennale di Venezia yn 2026, gan ailymgysylltu'n feddylgar ag un o gyfarfodydd diwylliannol enwocaf y byd ar ôl cyfnod o absenoldeb.
"Ar ôl dau ddegawd o ddeialog artistig gyda'r arddangosfa enwog hon, rydym yn cryfhau ein hymrwymiad i sicrhau bod creadigrwydd Cymru yn parhau i atseinio yn y digwyddiad diwylliannol arwyddocaol hwn.
"Mae tirwedd heddiw yn cyflwyno heriau eithriadol i ni - cyfyngiadau ariannu, effeithiau Brexit, a hanfod cyfiawnder hinsawdd - ond dyma'r catalyddion sy'n ysbrydoli’r celfyddydau o’r newydd. Dyma ein cyfle i symud ymlaen gydag argyhoeddiad, i ailadeiladu gyda phwrpas, ac i gyflwyno Cymru sy'n amrywiol, yn ddeinamig ac yn flaengar ar y llwyfan rhyngwladol."
Mae’r Cyngor yn croesawu cynigion gan sefydliadau yng Nghymru sydd â hanes o reoli arian cyhoeddus a chreu arddangosfeydd a fydd yn cynnig cyfleoedd rhyngwladol i artistiaid amrywiol sy'n byw yng Nghymru ddatblygu eu gwaith mewn ffordd sy'n deg i bobl a'r blaned.
Bydd y canllawiau llawn i fynegi diddordeb gan sefydliadau i guradu a chyflwyno arddangosfa Cymru yn Fenis fel Digwyddiad Cyfochrog swyddogol yn mynd yn fyw ar wefan celf.cymru ar ddydd Mawrth 6 o Fai a 1pm ddydd Mercher 4 Mehefin 2025 fydd y dyddiad cau.
Cyngor Celfyddydau Cymru a'i gangen ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n comisiynu a rheoli Cymru yn Fenis gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.