Cefndir

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd mynegi diddordeb gan sefydliadau sy'n gweithio ym maes celfyddydau gweledol Cymru i guradu a chyflwyno arddangosfa uchelgeisiol Cymru yn Fenis i 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol, La Biennale di Venezia.

Byddwn yn croesawu’n arbennig gynigion a fydd yn creu cyfleoedd rhyngwladol i artistiaid amrywiol sy'n byw yng Nghymru ddatblygu eu gwaith mewn ffordd sy'n deg i bobl ac i'r blaned.

Rydym yn comisiynu artistiaid i gyflwyno digwyddiad cyfochrog yn y Biennale i ddathlu'r gorau o artistiaid hen a newydd Cymru. 

Bydd y dewis brosiect i 2026 yn ailgychwyn presenoldeb ac uchelgais Cymru yno. Bydd yn adeiladu ar ein henw da a'n profiad wrth gyflwyno dulliau cyflawni newydd a chefnogi cynlluniau hir dymor ar gyfer 2028 a 2030. 

Bydd prosiect 2026 yn cael ei ddewis gan alwad agored am gynigion. 

Pwy sy’n gallu ymgeisio? 

  • Sefydliadau sydd â phrofiad o reoli arian cyhoeddus. Rydym yn disgwyl ichi gymryd cyfrifoldeb am y gyllideb, materion ariannol, contractio a diogelu

  • Gall aelodau o'r tîm fod o’r tu allan i Gymru gan gynnwys y curadur a'r artist ond rhaid iddynt ddangos gwybodaeth ddofn o gelfyddydau gweledol Cymru a bod â chysylltiad â nhw a gwybod am eu manteision 

Pryd i ymgeisio a dyddiadau pwysig

Bydd y canllawiau llawn i fynegi diddordeb gan sefydliadau i guradu a chyflwyno arddangosfa Cymru yn Fenis fel Digwyddiad Cyfochrog swyddogol yn mynd yn fyw ar wefan celf.cymru ar ddydd Mawrth 6 o Fai a 1pm ddydd Mercher 4 Mehefin 2025 fydd y dyddiad cau.

Rhoi gwybod i’r rhai ar y rhestr fer: 16 Mehefin 2025

Cyfweliadau: 23-24 Mehefin 2025

Cyhoeddi'r comisiwn: canol Gorffennaf 2025

Os oes gennych gwestiynau am y cyfle neu os hoffech drafod eich syniadau ac a ydych yn gymwys, cysylltwch â'n tîm Cymru yn Fenis drwy e-bost, ein gwefan neu’r cyfryngau cymdeithasol:

E-bost: cymruynfenis@celf.cymru

Byddwn yn gallu cynnig cyfarfodydd hanner awr ar-lein gan ddechrau adeg y lansiad hyd at yr alwad agored ddydd Gwener 23 Mai. Ar ôl y dyddiad yna, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r e-byst sy’n dod atom hyd at y dyddiad cau.   

Cymorth
Dogfen06.05.2025

Galwad Agored Cymru yn Fenis 2026

Dogfen02.05.2025

Templed Cyllideb: Cymru yn Fenis 2026