Cyflwyniad i'r arolwg

Mae angen eich help arnom i benderfynu beth sy'n bwysig i bobl Cymru o ran gweithgarwch celfyddydol. Credwn y dylai pawb gael mynediad i'r celfyddydau ac mae eich barn yn cyfrif wrth ddosbarthu ein harian i'r lleoedd cywir.

Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff cyhoeddus swyddogol sy’n ariannu a datblygu'r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Helpwch ni i gefnogi a thyfu'r celfyddydau. Gwnawn hyn gyda’r arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Drwy reoli a buddsoddi'r arian mewn gweithgarwch creadigol o bob math, cyfrannwn at ansawdd bywyd pawb ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru. Hoffem glywed eich barn am sut y defnyddiwn ein harian. Bob 5 mlynedd adolygwn ein Portffolio. (Y Portffolio yw'r enw ar y grŵp o'r prif sefydliadau a ariannwn – y rhai sy'n cael grantiau misol tuag at eu costau a'u gwaith craidd). Yn 2021/22 rhoddwyd tua £27 miliwn i'r Portffolio.

Mae’r Portffolio’n cynnwys cwmnïau, theatrau, canolfannau celfyddydol ac orielau o bob math – rhai’n rhyngwladol, eraill yn lleol a chymunedol. Mae pob un yn gweithio’n wahanol yn ariannol. Mae rhai yn codi swmp eu harian wrth werthu tocynnau, eraill yn canolbwyntio ar y gymuned gan weithio gyda phobl na fyddent fel arfer yn profi’r celfyddydau.


Rydym ni am i'r Portffolio adlewyrchu anghenion pobl Cymru ac i’r celfyddydau fod wrth wraidd bywyd a lles ein pobl. Felly, mae eich barn yn cyfrif hyd yn oed os nad ydych chi’n mynychu’r celfyddydau neu'n cymryd rhan ynddynt!

Os yw hynny'n wir, gobeithio y gallwn newid hynny am y bydd eich barn yn dylanwadu ar ein penderfyniadau ariannu.

Rhyw 10 munud y bydd llenwi'r arolwg yn ei gymryd.

Os hoffech unrhyw gymorth i gwblhau'r holiadur, cysylltwch â ymchwil@celf.cymru