Rhyddid Gwybodaeth
Rydym wedi ymrwymo i fod mor agored ag sy’n bosibl. Rydym yn credu bod gan y cyhoedd hawl i wybod sut yr ydym yn gwario arian cyhoeddus. Gallwch weld manylion ein polisi yma.
O dan y gyfraith, mae’n bosibl y bydd rhaid inni roi eich dogfennau ymgeisio a gwybodaeth am ein hasesiad i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gofyn i’w gweld o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’n bosibl na fyddwn yn rhyddhau’r rhannau hynny o’r dogfennau mae un neu ragor o’r esemptiadau o dan y Ddeddf yn ymwneud â nhw. Gweler y wefan Rhyddid Gwybodaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithdrefn Gwyno
Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch cais, gallwch weld copi o’n Gweithdrefn Gwyno ar ein gwefan yma.
Nodwch na allwch gwyno oni bai eich bod yn credu nad ydym wedi dilyn ein proses gyhoeddedig wrth ymdrin â’ch cais. Ni allwch ddefnyddio’r weithdrefn gwyno i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Atal Twyll
Mae ariannu cyhoeddus yn dibynnu ar uniondeb y ceisiadau a gawn. Dylech ateb yr holl gwestiynau’n llawn, yn glir ac yn onest. Os byddwch yn cynnwys gwybodaeth anghywir, mae’n bosibl y bydd angen inni hawlio cyllid yn ôl ar ddyddiad diweddarach neu gymryd camau eraill os byddwn yn amau twyll.
Bydd gwybodaeth a gesglir trwy’r broses ymgeisio yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal camddefnyddio arian cyhoeddus a gwyngalchu arian ac i wirio eich hunaniaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffordd y gellid defnyddio’ch gwybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd.
Diogelu Data
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’n rhwymedigaethau a chyfrifoldebau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Mae’r Rheoliad yn nodi sut yr ydym yn casglu, rheoli, rhannu a storio data personol. Mae hefyd yn diffinio’ch hawliau chi mewn perthynas â’r ffordd yr ydym yn rheoli’ch data.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn ein Polisi Preifatrwydd cyhoeddedig. Ni fyddwn yn datgelu data personol na data personol sensitif (fel y’u diffinnir yn y Rheoliadau heb eich cydsyniad oni fo rhwymedigaeth drechol yn berthnasol (e.e. rhwymedigaeth gyfreithiol).