Cofiwch, nid oes angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg i gysylltu â'r cyfryngau Cymraeg. Bydd newyddiadurwyr a gohebwyr yn hapus i siarad â chi yn Saesneg am eich digwyddiad.
Hyd yn oed os yw eich cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn Saesneg nid yw hynny yn golygu na all eich deunyddiau marchnata fod yn ddwyieithog ac o ddiddordeb i'r cyfryngau Cymraeg.
BBC Radio Cymru
Mae BBC Radio Cymru yn darlledu’n ddyddiol yn y Gymraeg yn unig. Mae'n darlledu cymysgedd o raglenni ar gyfer pobl o bob oed. Mae amserlen lawn ar gael ar wefan yr orsaf.
Manylion cyswllt:
03703 500 500
Neges destun: 67500
Ebost cyffredinol: radio.cymru@bbc.co.uk
Ebost i roi gwybod am ddigwyddiadau: digwyddiadau@bbc.co.uk
BBC Radio Cymru 2
Dyma orsaf ddigidol gydag arlwy o adloniant a cherddoriaeth digidol sy'n darlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 6.30am ac 8.30am, ar ddydd Sadwrn rhwng 7am a 9am, ac ar fore Sul rhwng 8am a 10am.
Manylion cyswllt:
03703 500 500
Neges destun: 67500
Ebost cyffredinol: radiocymru2@bbc.co.uk
S4C
Mae S4C yn darlledu dros 115 awr yr wythnos ac yn cynnwys pob math o raglenni o ddramâu i ddogfennau, adloniant ysgafn i faterion cyfoes.
Darlledwr yw S4C sy'n comisiynu rhaglenni ond nid yw'n eu cynhyrchu'n fewnol. Cwmnïau annibynnol sy'n creu'r rhaglenni mae'n ei ddarlledu.
Mae rhaglenni cylchgrawn S4C 'Prynhawn Da' a 'Heno' (gan gwmni Tinopolis) yn aml yn cynnwys gwesteion ac eitemau ar y celfyddydau a digwyddiadau diwylliannol. Mae'r ddwy raglen yma hefyd yn gwahodd fideos sy'n hysbysebu digwyddiadau (15 - 20 eiliad o hyd) - anfonwch nhw at heno@tinopolis.com.
Gorsafoedd Radio Lleol a Rhanbarthol
Mae nifer o orsafoedd radio lleol a rhanbarthol yn darlledu rhywfaint yn Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I gael rhestr gyflawn o’r rhain, edrychwch ar restr Wicipedia.
Cyhoeddiadau perthnasol yn yr iaith Gymraeg
Mae nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol at gael. Dyma'r prif rai:
Cylchgrawn Golwg a Golwg 360
Cylchgrawn wythnosol yw Golwg sy'n cynnwys newyddion a materion cyfoes o Gymru. Mae'r gwasanaeth newyddion a diwylliant ar-lein Golwg 360 yn caniatáu i chi lwytho straeon a hysbysebion yn eich ardal leol i'r wefan.
Barn
Cylchgrawn materion cyfoes misol yw Barn sy'n cynnwys erthyglau sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth, iaith, diwylliant, y celfyddydau a chwaraeon o Gymru, y DU a'r cyfandir o safbwynt Cymreig.
Y Cymro
Dyma unig bapur cenedlaethol Cymru sydd yn y Gymraeg. Mae modd tanysgrifio i'r papur ar-lein neu brynu copi mewn rhai siopau penodol.
Ebost: gwyb@ycymro.com
Papurau Bro
Mae'r Papurau Bro yn enwog yng Nghymru. Yn y bôn, cylchlythyrau Cymraeg lleol ydynt sy'n cael eu cynhyrchu yn y gwahanol gymunedau. Maent yn llawn newyddion lleol a hysbysiadau am ddigwyddiadau. Dyma restr lawn o'r Papurau Bro.