Sophie Mak-Schram a chydweithwyr: To Shift a Stone

Beth a gaiff ei ystyried yn bŵer, a phwy gaiff ei ddal? 

Arddangosfa dwy ran yw To Shift A Stone, yn Chapter ac Amgueddfa Cymru, gan Sophie Mak-Schram a chydweithwyr sy’n archwilio sut caiff pŵer ei brofi, ei rannu a’i herio o fewn y sefydliadau yma a’u cyhoedd.  

Ers 2023, mae Sophie wedi bod yn gweithio gyda staff yn Chapter ac Amgueddfa Cymru, yn ogystal ag ymgyrchwyr, gweithwyr cymunedol ac artistiaid i ddatblygu ‘offer’ cydweithredol sy’n herio ac yn ailddychmygu strwythurau pŵer.  

Yn Chapter, gan ganolbwyntio ar ein caffi – lleoliad masnach, llafur a hamdden – mae Sophie a’i chydweithwyr wedi bod yn ailddychmygu’r ffyrdd gallen ni gynnull, ymlacio a chysylltu yn y man cyhoeddus yma. Mae ‘offer’, gan gynnwys sgriniau plygu, tecstilau a gwaith sain, yn meddalu’r bensaernïaeth ac yn creu gofodau ar gyfer arafwch, preifatrwydd a gwrando. Mae gwaith celf o Gasgliad Allgymorth Ysgolion (1951–1990au) yr amgueddfa, sy’n gasgliad o wrthrychau a gwaith celf a fu’n ymweld ag ysgolion ledled Cymru, wedi’u harddangos ar y waliau. Mae dosbarthiad a symudedd y gwaith celf yma’n codi cwestiynau ynghylch sut rydyn ni’n ymgysylltu â chelf ar ein telerau ni y tu allan i sefydliadau diwylliannol a’u fframweithiau curadurol. 

Mae hysbysfwrdd Sophie’n cynnwys gwaith celf a gwrthrychau o Amgueddfa Cymru a deunyddiau maen nhw wedi’u diystyru: gwydr a ganfuwyd yn y llawr isaf a ffurfdeip a ddyluniwyd yn seiliedig ar eitem a ddiystyriwyd o’u casgliad, ochr yn ochr â delweddau o archifau Sophie. Yn arnofio ar draws yr awyr a’r wyneb allanol, ac yn cyd-fynd â’r delweddau yma, mae’r dyfyniad ‘on hold’, a thrwy ei ailadrodd caiff ei drawsnewid i’r dywediad ‘hold on’. Er bod sefydliadau’n addo’n barhaus i newid at ddyfodol mwy teg a dad-drefedigaethol, gall creu ac aros am y newid yma deimlo fel ein bod ni ar stop (on hold) yn ddi-ben-draw.  

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gwaith Sophie yn Chapter ac Amgueddfa Cymru wedi tarfu ar strwythurau a ffyrdd o weithio er mwyn ailystyried dosbarthiad pŵer. Mae’r gwaith yma’n golygu bod modd dychmygu sut gallai newid edrych a sut gall newid ddod i’r amlwg yn ein sefydliadau diwylliannol. Mae gwaith Sophie’n ein cyfeirio tuag at obaith a ‘dal mlaen’ (hold on).  

Bydd rhaglen gyhoeddus o ddigwyddiadau yn Chapter ac Amgueddfa Cymru yn cyd-fynd â To Shift A Stone. I gael diweddariadau am y rhaglen yma, cofrestrwch i’n cylchlythyr