Gwahoddwyd aelodau Criw Celf Caerdydd i stiwdio Sean Edwards, artist #CymruYnFenis2019, wrth iddo baratoi'r arddangosfa arbennig. Tra yno, llwyddodd y criw o bobl ifanc i ddal teimlad ac ysbryd y gwaith barddonol. Cewch fwynhau allbwn gwaith Sahar Martinez, Clara Hartley, Ellie Mountford, Ellie Hacking a Eve Barnes isod.

Cyfres o ddosbarthiadau meistr yw Criw Celf, sydd yn rhoi cyfle i blant sydd wedi dangos talent neu/a diddordeb arbennig mewn celfyddyd i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau.

Gwahoddodd yr artist a chydlynydd addysg Thomas Goddard y grŵp i gynhyrchu ymateb deongliadol i arddangosfa Cymru yn Fenis eleni. Dywedodd Tom:

"Gyda'n gilydd fe wnaethon ni ymchwilio a thrafod y gwaith, y biennale a'i gyd-destun. Roedd y bobl ifanc yn awyddus i rannu cipolwg tu ôl i'r llen o waith Sean , ac yn gwneud hynny fe'u hysbrydolwyd i wneud darn o gelf eu hunain.

Arweiniodd Tom y broses a’r weledigaeth, gan roi mynediad i’r bobl ifanc at Sean a thîm Cymru yn Fenis, a’u cefnogi gyda chynhyrchu a golygu'r ffilm.

"Y canlyniad yw darn hynod o egnïol, cyffyrddadwy (yn weledol) a myfyriol ei naws. Roedd yn bleser pur gweithio gyda'r grŵp - cawsom lawer o hwyl yn gwneud y ffilm."

Mae arddangosfa Sean Edwards wedi’i chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a dyma’r nawfed cyflwyniad yno gan Gymru. Mae arddangosfa Sean Edwards yn un barddonol i le, gwleidyddiaeth a dosbarth gyda hanes personol wedi’i wau i mewn. Darllenwch mwy am #CymruYnFenis2019 yma.

I thought the project was an awesome experience- a really nice introduction into various elements of the art world and how it works. Loved experimenting with film too as this is very new to me! Experimenting with different types of lighting and layout was really interesting; it was great to be able to make links between Sean’s work and the artistic decisions we made for the film.

Ellie Mountford, Criw Celf