Cafodd NoFit State ddechrau da i 2019 gyda'u pabell fawr yn llawn dop ar gyfer perfformiadau o LEXICON yn y Biennale International des Arts du Cirque ym Marseille. Yn awr, mae’r cwmni o Gaerdydd am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy sefydlu rhaglen Artistiaid Cyswllt i gefnogi datblygiad byd y syrcas ym Mhrydain.  Dyma raglen a fydd yn talu yn ôl i gymuned sydd wedi cyfrannu cymaint at eu datblygiad hyd yma.

Gyda chymorth y Fenton Arts Trust, mae’n bleser gan NoFit State lansio rhaglen beilot Artistiaid Cyswllt - cyfle newydd i artistiaid a chwmnïau i gydweithio â NoFit State ac elwa ar eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u hadnoddau er mwyn datblygu eu gwaith artistig eu hunain. Gobaith NoFit State yw cefnogi hyd at dri artist neu gwmni newydd bob blwyddyn gan wneud cyfraniad sylweddol a pharhaol i’r sector.

Dywedodd Tom Rack, Cyfarwyddwr Artistig NoFit State: “Sefydlwyd NoFit State mewn cyfnod pan nad oedd ysgolion syrcas na grantiau i gwmnïau syrcas ac roedd syrcas gyfoes yn beth prin iawn. Erbyn hyn, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn, ond mae’n dal yr un mor anodd i artistiaid a chwmnïau ifanc symud ymlaen i greu eu gwaith eu hunain a mynd ag ef ar daith. A ninnau, arloeswyr syrcas gyfoes Prydain, yn mynd i oed, rydym yn awyddus i feithrin, annog a chefnogi'r genhedlaeth nesaf er mwyn i'n celfyddyd ni barhau i dyfu a datblygu'n gynt ac yn gynt.

Ymhlith y manteision posibl i’r artistiaid a ddewisir, bydd cyfleoedd i ddefnyddio offer a chyfarpar, gwasanaeth mentora proffesiynol a chyngor creadigol gan ein tîm ni, a chyfle i ddefnyddio cyfleusterau hyfforddi NoFit yng Nghaerdydd am ddim. Mae’r cynllun yn mynd ati yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion unigol y gwahanol artistiaid cyswllt.

Gweledigaeth Ddiwylliannol Gyffredin

Er mai trwy wahoddiad y mae cymryd rhan yn y rhaglen, mae croeso i artistiaid a chwmnïau gysylltu â NoFit State a chychwyn sgwrs. Caiff artistiaid eu dewis ar sail:

  • Ansawdd eu gweledigaeth artistig
  • Y diddordeb yn eu dyheadau creadigol
  • Y berthynas â gweledigaeth greadigol a diwylliannol NoFit State
  • Gallu NoFit State i roi cefnogaeth wirioneddol i’w datblygiad

Yn bwysicaf oll, bydd gan yr artistiaid a’r cwmnïau llwyddiannus uchelgais sy’n gyffrous ac sy’n dangos addewid y gallai eu gwaith fod o fudd i’r gymuned artistig yn gyffredinol.

Cadw Cwmni Da

Wrth lansio fersiwn beilot y cynllun, mae’n bleser gan NoFit State gyhoeddi mai’r cwmni syrcas ôl-gyfoes Company-ish fydd y cyntaf i’w wahodd i ymuno â’r rhaglen. Mae Company-ish yn cyfuno traddodiad y babell fawr deithiol ag elfen ffres a modern o berfformio. Maent yn awyddus i ysbrydoli ac ymgysylltu â chynulleidfa sydd mor eang ag y bo modd ac mae hynny’n cyfateb i werthoedd agored a hygyrch NoFit State.

Wrth elwa ar y profiad o gydweithio â rhai o brif berfformwyr syrcas Prydain, nod Company-ish yw rhoi hwb i syrcas fel celfyddyd gan gyrraedd cynifer o bobl ag y bo modd, heb amharu ar egwyddorion craidd y gelfyddyd. Bydd cydweithio fel hyn yn hwb i uchelgais artistig y cwmni wrth iddynt baratoi at agor ym mis Medi â’r Big Bagaga Show yng Nghaerdydd a Llundain.

Dywedodd Luke Hallgarten, Cyfarwyddwr Artistig Company-ish: “Y man cychwyn ar gyfer Company-ish oedd tri ffrind yn eistedd mewn carafan yn Newcastle-under-lyme. Fydden ni erioed wedi dychmygu cael cymaint o gefnogaeth ac arweiniad gan NoFit State. Mae eu hymroddiad i gefnogi ein breuddwyd ifanc, eu hethos fel cwmni a’u hiwmor yn werth y byd i ni.

Ar ôl cydweithio â Company-ish, bydd NoFit State yn chwilio am artistiaid a chwmnïau eraill fel y gallant ehangu’r rhaglen Artistiaid Cyswllt, yn y gobaith o roi hwb i fyd y syrcas am flynyddoedd i ddod.