Mae Noson Allan yn cyflwyno cyfoeth o gelfyddydau ac adloniant i bentrefi bach a neuaddau eglwys. Gallai’r lleoliadau hyn fod wrth galon Cymru wledig, mewn sefydliadau lles yn y cymoedd ôl-ddiwydiannol neu mewn canolfannau cymunedol amlddiwylliannol yn ein dinasoedd

Rydyn ni’n ffodus y gallwn helpu i roi llwyfan i ddoniau o Gymru yn ogystal ag amrywiaeth o berfformwyr o bedwar ban byd. Dyma beth sydd gan bobl i’w ddweud am y cynllun. 

"Rydyn ni wrth ein bodd gyda chynllun Noson Allan am ei fod yn caniatáu i ni gynnig perfformiadau theatr o safon uchel i’n cymuned sy’n ei chael yn anodd mynd â’u teuluoedd i’r sinema neu’r theatr fel arall, am resymau ariannol. Fe allwn ni gynnig rhaglen amrywiol o sioeau drwy’r cynllun a denu pobl i ddod i wylio rhywbeth na fydden nhw o anghenraid yn dewis ei weld, gan ehangu eu gorwelion"  

Plant y Cymoedd 

"Cynllun Noson Allan wnaeth ganiatáu i hyn ddigwydd. Hebddo, fydden ni heb gymryd y risg o hyrwyddo sioe. Fe ddaeth â phobl ynghyd a chyflwyno cynulleidfa newydd i’n neuadd bentref."

Cymdeithas Pentref Llanwytherin 

"Roedd y gynulleidfa wedi’i hudo gan berfformiad Fahmida Nabi."

Cymdeithas Menywod Bangladesh 

"… mor dda oedd gweld y neuadd gymunedol yn cael ei mwynhau gan gymaint, a chan bobl o bob oed. Caf fy rhyfeddu dro ar ôl tro gan y garfan ddiddiwedd o berfformwyr gwych sydd i’w cael."  

Clwb Gwerin Casnewydd