Mae Vita Davidis yn portreadu golygfeydd o fywyd Dewi Sant. Bydd y tenor o Gymru, Gwyn Hughes Jones yn ymuno â’r perfformwyr, gyda detholiad o’i hoff ganeuon Cymraeg gyda Beti George yn cyflwyno’r cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Bydd concerto newydd Gareth Glyn i’r delyn, cyd-gomisiwn rhwng BBC NOW a’r Tŷ Cerdd, yn cael ei arwain gan yr arweinydd Cymreig enwog Grant Llewellyn. Meddai Gareth Glyn “Mae’r concerto cryno hwn yn ddarlun cerddorol o lawer o elfennau’r stori - y storm y ganwyd Dewi ynddi, y golomen a ddysgodd ffyrdd Duw iddo, y bryn a dyfodd dan ei draed wrth iddo bregethu, a’i eiriau olaf: ‘Byddwch lawen, a gwnewch y pethau bychain.’ Mae’r gwaith yn un syfrdanol i’r delyn, yn nwylo medrus Catrin Finch, gan ei galluogi i arddangos holl nodweddion amrywiol yr offeryn, o’r elfennau mynegiannol a thyner, i’r tymhestlog a’r meistrolgar.”

Bydd y cyngerdd, sy’n dathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog Cymru, yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr a roddodd Gymru ar y map – Hoddinott, Grace Williams, Mathias a Morfydd Owen. Bydd Catrin Finch a Gwyn Hughes Jones yn dod at ei gilydd gyda’r ffefryn traddodiadol Cymreig, Dafydd y Garreg Wen, a bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio dau ddarn a gafodd eu hysbrydoli gan y nawddsant hefyd - Er Mwyn dy was, Dewi gan Mansel Thomas a Dewi Sant: Molwn Di gan Arwel Hughes. Rhan o'r dathliadau, bydd band gwerin Cats Claw yn perfformio cyn y gyngerdd, yn yr egwyl ac ar ôl y gyngerdd.

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn Neuadd Dewi Sant ar 1 Mawrth 2019 am 7.30pm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i bbc.co.uk/bbcnow neu cysylltwch â Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW ar 0800 052 1812.