Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda'i chynllun arloesol i roi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth wraidd addysg a thrawsnewid addysgu ar draws y cwricwlwm.

Hyd yn hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru, gydag arian Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi dros 80% o ysgolion Cymru.

Dywedodd Siân James, Rheolwr y Rhaglen:

"Ers dechrau'r pandemig rydym ni’n addasu ein rhaglen greadigol. Rydym ni’n cynnig adnoddau i alluogi disgyblion i weithio'n annibynnol a chydag eraill os ydynt yn yr ysgol neu’n gweithio gartref. Wrth ddyfeisio’r rhaglen roeddem ni’n cofio bod llawer o ddisgyblion dan yr un to â’u brodyr a’u chwiorydd a rhieni sy’n gweithio."

Un o'r ysgolion a ymunodd â'r cynllun oedd Canolfan Addysg y Bont, Llangefni. Meddai un o'r rhieni:

"Roedd fy mab wrth ei fodd! Roedd yn rhoi tawelwch meddwl imi hefyd. Roeddwn i’n poeni amdano efo’r ochr gymdeithasol – dim ond y teulu sydd ganddo erbyn hyn. Ond roedd yn mwynhau'r holl dasgau."

Mae'r cynllun yn cefnogi ysgolion i ymbaratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Ei nod yw defnyddio technegau creadigol i wella cyrhaeddiad, datblygu sgiliau athrawon a lleihau effaith amddifadedd ar ddisgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.

Gall ysgolion, athrawon a gweithwyr creadigol ddathlu'r gwaith a ddaeth o’r rhaglen drwy ddefnyddio'r hashnod Trydar #DysguCreadigolCymru.