YMUNO Â NI | awydd gwneud rhywbeth creadigol, ysbrydoledig a gwerth chweil?

Elusen sy’n gweithio yn y maes celfyddydau cyfranogol yw Arts Connection - Cyswllt Celf, wedi ei lleoli yn Llanfyllin. Rydym yn darparu prosiectau celfyddydau cyfranogol o ansawdd uchel mewn amrywiol gyfryngau artistig ar draws Powys, Wrecsam a’r gororau. Trwy ein gwaith gydag ysgolion, plant, pobl ifanc, pobl ag anableddau dysgu a’r gymuned, cynigir cyfle croesawgar i’r celfyddydau trwy ddarpariaeth ddwyieithog.

Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd sydd eisoes ag aelodau amrywiol a bywiog. Os ydych o’r farn y gallwch gyfrannu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Byddem yn annog unrhyw un dros 18 oed i ymgeisio!

Os nad ydych wedi bod yn Ymddiriedolwr o’r blaen, peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro, oherwydd byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth.

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sydd â sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Yr iaith Gymraeg
  • Cyllid
  • Codi arian
  • Addysg
  • Iechyd  
  • Marchnata

Mae rôl ymddiriedolwr yn un gwirfoddol, ac nid oes unrhyw gyflog yn gysylltiedig, ond telir treuliau rhesymol. Mae cyfarfodydd yn hybrid ac yn cael eu cynnal yn Llanfyllin ac ar Zoom.

Ymrwymiad Amser

  • 4 x Cyfarfod Bwrdd 2 awr y flwyddyn
  • 1 x Diwrnod Cynllunio Blynyddol
  • 1 x Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
  • Ymuno â hyfforddiant y Bwrdd yn ôl y gofyn
  • Cyfrannu i un o Is-bwyllgorau'r Bwrdd
  • Mynd i ddigwyddiadau
  • Eirioli drosom ac ein cefnogi

Dyddiad cau i wneud cais | Dydd Sul 29 Medi 2024

 

Dyddiad cau: 29/09/2024