Ymgynghorydd Codi Arian

Mae’r Wyeside yn ceisio penodi ymgynghorydd llawrydd i weithio fel rhan o’n tîm prosiect sy’n cael ei sefydlu yn dilyn llwyddo i dderbyn cyllid drwy grant Celfyddydau Cronfa Ffyniant a Rennir Cyngor Sir Powys. Mae angen i’r Wyeside godi refeniw ychwanegol ar frys ar gyfer ei model busnes er mwyn cynnal dyfodol y ganolfan gelfyddydau yng nghyd-destun llai o arian cyhoeddus. Bydd y gwaith prosiect yn dechrau ym mis Gorffennaf a bydd y swydd yn weithredol tan fis Hydref 2024 gyda rhaglen waith i'w chytuno.

Y ffioedd ar gyfer y prosiect hwn (i gynnwys yr holl gostau teithio a threuliau):

Ymgynghorydd codi arian: £8,000

Mae’r Wyeside yn chwarae rhan hanfodol ym myd celfyddydau Canolbarth Cymru. Am leoliad cymharol fach, mae’r rhaglen yn eang ac yn amrywiol, gan gynnwys drama, bale ac opera (yn fyw ac wedi’i ffrydio drwy loeren i’n sgriniau sinema), cerddoriaeth byd, y ffilmiau mawr diweddaraf o Hollywood a ffilmiau arthouse. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnal gweithdai, arddangosfeydd celfyddydau gweledol, sgyrsiau Prifysgol, cynadleddau a pherfformiadau cymunedol ac mae’r theatr ar gael i’w llogi. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar adeiladu ein cynulleidfaoedd, sefydlu ffrwd refeniw ychwanegol o berthnasoedd â noddwyr busnes newydd a chreu cynllun codi arian ar gyfer y dyfodol.      

Mae’r prosiect hwn yn deillio o gais i Gronfa Grant Trawsnewid a Chydnerthedd Celfyddydau Powys 2024 a bydd gwaith yn cael ei gynnal yn unol â’r Cwmpas Gwasanaethau hwn. 

Am ragor o wybodaeth a briff prosiect, cysylltwch â:

Jill Mustafa, Rheolwr Cyffredinol y Wyeside: generalmanager@wyeside.co.uk

Dyddiad cau 4th July 2024

Dyddiad cau: 04/07/2024