Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru dendr i gynnal cyfres o sgyrsiau ymchwil dwys. Ein nod oedd ehangu ymgysylltiad â chymunedau yr ydym yn methu yn gyson â'u cynnwys yn ein gwaith. Daeth 34 ymateb i law, ac yn dilyn proses ddethol fanwl a chyfweliadau penderfynwyd penodi tri sefydliad i gynnal tair astudiaeth wahanol iawn.

Dyma'r tri sefydliad a'u hastudiaethau:

  1. Re:cognition [dolen at yr adroddiad] a ganolbwyntiodd ar ardal led-wledig o dlodi (fersiwn BSL i’w gael https://youtu.be/iHUtf2JNzvY  [rhan 1] a https://youtu.be/oE9auehMQt4 [rhan 2])
  2. Richie Turner Associates, [dolen at yr adroddiad] a luniodd dîm i ganolbwyntio ar bobl fyddar ac anabl (fersiwn BSL i’w gael https://youtu.be/nTeyLQ-4iH8 [rhan 1] https://youtu.be/WN2RaA-FwEI [rhan 2] a https://youtu.be/v7m6mJBIqT8 [rhan 3])
  3. Welsh Arts Anti-Racist Union [dolen at yr adroddiad] a ganolbwyntiodd ar amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig (fersiwn BSL i’w gael yma https://www.youtube.com/embed/nbfzAbkxMtE [rhan 1] https://youtu.be/4ObxzfqPlAI [rhan 2] a https://youtu.be/ouhHBwv1UUM [rhan 3]).

Cafodd Covid-19 effaith ddifrifol ar y gwaith. Bu'n rhaid i'r tri sefydliad addasu eu dulliau gweithio. Mae'r tri adroddiad bellach wedi'u cwblhau ac wedi'u cyhoeddi ac i’w cael o glicio ar y dolenni uchod.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn croesawu canfyddiadau'r astudiaethau hyn. Roedd dulliau gweithio'r tri chorff yn canolbwyntio ar gydweithio â chymunedau yn hytrach na chymryd gwybodaeth ganddynt ac maent yn darparu ystod o ganfyddiadau ac argymhellion pwysig.

Yn gynnar yn 2022, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar y cyd er mwyn gweithredu ar yr argymhellion.

Ar gyfer ein sefydliadau ni, mae'r gwaith hwn yn rhan allweddol o broses ehangach o newid, gan weithio gyda chymunedau sydd wedi ei chael hi'n anodd ein cyrraedd a sicrhau bod ein gwaith a'n dulliau o weithio yn fwy cyfartal. 

Mae'r gwaith yn cefnogi Cynllun Cydraddoldeb Strategol y ddau sefydliad, sy'n disgrifio ein penderfynoldeb i sicrhau cydraddoldeb, a'n hymrwymiad clir i gyrraedd holl gymunedau Cymru a gwella'r cyrhaeddiad hwnnw. Bydd y gwaith hefyd yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru.