Yn ymateb i gyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw, sy'n dangos yr arian ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn aros yn gyson, dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae hwn yn gyhoeddiad i'w groesawu yn wresog.  All neb beidio â sylweddoli'r pwysau aruthrol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn allweddol o ran atgyfnerthu pwysigrwydd y celfyddydau wrth gefnogi lles pobl Cymru. 

"Trwy gydol pandemig coronafeirws mae artistiaid a sefydliadau celfyddydol wedi bod yn hynod ddychmygus ac wedi dangos dycnwch rhyfeddol o ran darparu cyfleoedd i fwynhau, i ysbrydoli a chysuro ar adeg o argyfwng digymar o anodd. 

"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn galluogi hyn i barhau a bydd yn cynorthwyo gyda diogelu swyddi a chyflogau ar draws y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol.  Bydd Cyngor y Celfyddydau yn cwrdd mis nesaf er mwyn cwblhau ei gynlluniau gwario ar gyfer 2021/22.”

DIWEDD                                21 Rhagfyr 2020

Gellir dod o hyd i'r manylion am y gyllideb trwy glicio yma (linc at wefan Llywodraeth Cymru_