O weithdai creadigol i gyn-weithwyr dur Port Talbot i therapi celf i blant â gorbryder yn y Gogledd, mae prosiectau sy'n cefnogi lles meddwl wedi cynyddu yn sgil rownd ddiwethaf arian y Loteri ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Lles gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cafodd y gronfa ei lansio yn 2021 ac mae ar agor i geisiadau newydd gan bartneriaethau rhwng y celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector sy'n ymateb i anghenion iechyd lleol a chenedlaethol.

Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Mae arian yn brin yn y GIG a’r celfyddydau ond mae’r angen am gymorth iechyd meddwl a lles ar gynnydd. Felly rydym yn falch o gefnogi prosiectau celfyddydol sy'n ymateb i broblemau iechyd mawr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl Cymru.

"Mae'r rhai sydd wedi cael arian yn cefnogi mentrau sy'n gwasanaethu pob oed gyda chyfleoedd creadigol i gefnogi gwell iechyd meddwl a mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol ac unigrwydd. Mae cryn dystiolaeth am rym y celfyddydau i hyrwyddo iechyd a lles. Wrth i’r gronfa ailagor i gais, gobeithio y bydd yn cael effaith fawr ar gymunedau ledled Cymru yn ystod cyfnod o angen mawr."

Mae'r mentrau celfyddydol ac iechyd a gafodd arian yn y misoedd diwethaf yn cynnwys prosiectau ffotograffiaeth i gleifion cancr yn Felindre, rhaglenni celf hiraethus i bobl â dryswch, cerddoriaeth fyw a'r celfyddydau gweledol i gleifion ifanc mewn lleoliadau iechyd meddwl a chreadigrwydd ym myd natur i bobl ifanc. Am y rhestr lawn, gweler isod.

Dyddiad cau’r gronfa yw dydd Mercher 28 Mai. Dyma’n blaenoriaethau: prosiectau celfyddydol creadigol sy'n cysylltu pobl â natur; cefnogi iechyd meddwl; mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd; cadw pobl i symud yn gorfforol; hyrwyddo lles staff.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymgeisio, ewch i: Celfyddydau, Iechyd a Lles 

Ymhlith y prosiectau a gafodd eu hariannu yn y rownd ddiwethaf oedd:
 

Creu eiliadau hiraethus: Y Tŷ CelfGan weithio gyda Links a Phrifysgol Abertawe, bydd Y Tŷ Celf yn darparu gweithdai celf ar thema Hiraeth wedi'u hanelu at dair carfan: pobl sy'n byw gyda dryswch a’u gofalwyr; pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio; pobl leol o unrhyw oed sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl.
Artisanctuary: KIM Inspire Gweithdai celf a chrefft o safon i wella iechyd meddwl pobl a gwella lles y staff a'r artistiaid sy'n eu cefnogi.
Dileu Rhwystrau i Bobl Hŷn yn y Celfyddydau: Theatr y RealaethEhangu'r prosiect sy'n dod â'r celfyddydau cymunedol i bobl hŷn Casnewydd gan ei wneud yn fwy hygyrch.
Story Quest: Ymddiriedolaeth Genedlaethol er LlythrenneddProfi prosiect llwybrau storïau newydd sy'n seiliedig ar natur yng Ngwent i gefnogi lles plant a phobl ifanc Asiaidd ac ethnig yn bennaf drwy eu cysylltu â natur wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol yn yr awyr agored.
Into the Woods: Outside Lives CyfProsiect â sawl partner sy'n cyfuno creadigrwydd â natur i hyrwyddo iechyd meddwl a lles ymhlith pobl â chyflyrau cymhleth a phroblemau iechyd meddwl drwy bedair rhaglen dymhorol.
Datblygu Prosiect Cerddoriaeth a Chelfyddydau Gweledol Tŷ Llidiard: Cerddoriaeth mewn Ysbytai a Gofal CymruArchwilio manteision cyfuno cerddoriaeth fyw â'r celfyddydau gweledol i gefnogi pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl sy’n gleifion mewnol. Profi dulliau newydd i ddeall y ffordd orau o gefnogi lles y bobl ifanc, y cerddorion, yr artistiaid a’r staff gofal.
Yr Ardd Gelf: Anadlu CreadigolMae’n digwydd ym mhrosiect rhandiroedd Growing Green yng Nghaerdydd ac yn ymestyn i gydweithio â phartneriaid lles cymunedol eraill. Bydd y prosiect yn cynnig gwahanol weithgareddau celf, fel ffotograffiaeth, fideo, crefftau a cherfluniau sy'n seiliedig ar natur.
Carter's: O Ynysu i GymdeithasuBydd cleifion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd wedi profi ynysu yn cael eu gwahodd i gydgynhyrchu 30 sesiwn greadigol gyda phartneriaid cymunedol i leihau ynysu a chynyddu cymdeithasu, lles a chydlyniant cymunedol.
MenoMove - Hyrwyddo Lles yn y Menopos drwy Symud: Gwesty’r CorffNod y rhaglen beilot, sy'n bartneriaeth rhwng Gwesty’r Corff, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Felindre, yw cefnogi unigolion sy'n profi menopos drwy feithrin cymuned.
Drwy lens Natur: Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol FelindreMewn partneriaeth â Ffotogallery, mae Canolfan Gancr Felindre yn gwahodd y rhai sy'n gwella o gancr, i ymarafu a chysylltu â'r byd naturiol drwy ffotograffiaeth a barddoniaeth.
Prosiect Peilot Amenedigol Celfyddydau a Lles: TanioDyma gyfres o weithdai sy'n cyfuno celfyddydau gweledol ag ysgrifennu creadigol mewn lleoliadau grŵp sy’n darparu offer newydd a chysylltiad ag eraill drwy eu profiadau a'u syniadau.
Y Gofod Celf - Prosiect Trawma Plentyndod â'r Celfyddydau: Gweithredu dros Blant CymruDrwy ymgysylltu â phrosiectau a gweithgarwch celfyddydol a chydweithio rhwng arbenigwyr trawma Gweithredu dros Blant Cymru ac artistiaid cymunedol, bydd plant yn cael profi gweithgarwch celfyddydol synhwyraidd sy'n eu helpu i adfer a dod dros eu trawma.
Gwasanaeth Cynnig Creadigrwydd yn y Cartref: People Speak Up LtdMewn partneriaeth â'r tîm rhagnodi cymdeithasol yn adran atal a lles Cyngor Sir Gâr a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd y gwasanaeth yn parhau i ddarparu gwasanaeth celfyddydol ac iechyd i bobl hŷn yn eu cartref i gefnogi eu hiechyd meddwl, eu hunigrwydd a’u hynysigrwydd.
Heads Up Art for Men: GwellaCydweithiad rhwng Gwella, Adferiad ac YMCA Port Talbot i wella iechyd meddwl, lles a gwytnwch dynion Castell-nedd a Phort Talbot gan annog adferiad a thwf mewn lle sy’n dioddef yn sgil cau gwaith dur Tata. 
Swyn yr Afon: Cymuned Artis Dan arweiniad Cymuned Artis yn YMa mewn partneriaeth â Chanolfan Adferiad â Chymorth Pen-y-bont ar Ogwr, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Rhwydwaith Celfyddydau a Meddwl, mae'r peilot yn integreiddio'r celfyddydau therapiwtig, cymorth iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth amgylcheddol i feithrin lles. Drwy gyfres o weithdai cynhwysol a gosodiad celfyddydol cymunedol wedi'i hysbrydoli gan lif Afon Taf, bydd cyfranogwyr o gymunedau heb eu gwasanaethu’n archwilio’r themâu yma: cysylltiad; lle; perthyn.
Bro Lles: CARNHyrwyddo iechyd meddwl, lles a hyder ym myd natur ymhlith pobl ifanc sydd wedi profi hyder isel ar ôl y pandemig a phobl ynysig dros 60 oed. Bydd gweithdai creadigol yn canolbwyntio ar sgiliau treftadaeth a thirwedd gan ganolbwyntio ar helyg, gwlân a llechi. 
Heulwen: Pontio Bydd Artist Preswyl yng Nghlinig Plant (Uned Heulwen) yn Ysbyty Gwynedd yn creu awyrgylch croesawgar a chysurus i blant a rhieni wrth iddynt aros am driniaeth. Y nod yw annog rhagor o bobl i ddod i apwyntiadau.
Cydlyniant Cymunedol: Hamdden Sir Ddinbych CyfProsiect cyfranogol celfyddydol sy’n ystyried trawma i gefnogi teuluoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Sir Ddinbych sydd wedi profi trawma. Bydd yn digwydd rhwng partneriaid lleol gan gynnwys tîm iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, tîm ailsefydlu Cyngor Sir Ddinbych a'r gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
Labordy Lles a Datblygu Celfyddydau Gwanwyn: Gŵyl Animeiddio CaerdyddYmchwilio a datblygu rhaglen ddatblygu i weithwyr creadigol a’i gwneud yn brototeip. Bydd labordy datblygu preswyl ar gyfer rhywiau ymylol gan gynnwys menywod.
Gwehyddu 2025: Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles CymruCynhadledd genedlaethol ddeuddydd i’r celfyddydau, iechyd a lles mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dathlu ac archwilio partneriaethau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl a chorff a'r camau nesaf i greu newid polisi.