- Mae 88% y cant o oedolion Cymru wedi colli eu lle hapus yn ystod y cyfnod clo
- Mae Parc Cenedlaethol Eryri, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a Chastell Caerdydd oll wedi’u cynnwys o fewn y 10 prif le hapus ar draws Cymru
- Mae’r ffotograffydd, Tom Oldham wedi tynnu cyfres portreadau o bobl yn ôl yn eu lle hapus’, gan gynnwys Daniel Jervis a Xavier Castelli, y nofwyr o Gymru
- I ddweud diolch yn fawr am y £30 miliwn a godir pob wythnos gan ei chwaraewyr, mae’r Loteri Genedlaethol yn cynnig ‘Tocyn i’ch Lle Hapus’, gyda chynigion arbennig a mynediad am ddim yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 5-13 Mehefin a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol 19-20 Mehefin.
Dengys ymchwil newydd heddiw oddi wrth y Loteri Genedlaethol faint mae’r cyhoedd wedi colli ymweld â’u ‘lle hapus’ – eu hoff atyniad neu leoliad i ymwelwyr – yn ystod cyfyngiadau’r cyfnod clo, ynghyd â’r lleoliadau ‘lle hapus’ mwyaf poblogaidd ar draws Cymru.
Comisiynwyd yr ymchwil i ddathlu Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol y mis hwn, sy’n gweld lleoliadau o amgylch y DU yn cynnig gostyngiadau a mynediad am ddim fel diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y £30 miliwn a godir ar gyfer achosion da pob wythnos.
Daeth Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru (48%) i frig y bleidlais fel y lle y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried fel yr atyniad gorau yng Nghymru, gyda Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd (34%), Castell Caerdydd (29%) a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin (27%) yn dilyn hyn.
Y mathau o ‘leoedd hapus’ a gollwyd fwyaf yn ystod y cyfnod clo oedd y cefn gwlad ehangach (61%), safleoedd treftadaeth megis cestyll a gerddi (34%) a theatrau neu sinemâu (28%).
Dengys yr astudiaeth fod bron 9 mewn 10 o oedolion Cymru (88%) wedi colli eu ‘lle hapus’ yn ystod y cyfnod clo, tra bo bron hanner (55%) wedi datblygu gwerthfawrogiad mwy o atyniadau ymwelwyr, safleoedd diwylliannol, hanes a chelfyddydol y DU yn dilyn y pandemig. Pan ofynnwyd pam mai eu dewis o leoliad oedd eu lle hapus, dywedodd oedolion Cymru ei fod yn “codi’r hwyliau” (34%), “mae’n lle rwy’n gyfarwydd ag ef” ac “nid yw byth yn methu â fy rhyfeddu” (31%).
Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol y bydd Wythnos Agored a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol yn gyfle gwych i bobl ddychwelyd at y lleoedd y maent yn eu mwynhau fwyaf.
Dywedodd: “Mae Wythnos Agored a Phenwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol yn gyfnod gwirioneddol gyffrous yn y flwyddyn i ni, lle mae amrywiaeth anhygoel o leoliadau a phrosiectau led led y DU yn rhoi diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y £30 miliwn y byddant yn ei godi pob wythnos ar gyfer Achosion Da.”
“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae pobl yn gyffrous i ailddarganfod eu lle hapus, neu i ganfod lle newydd yn agosach at adref, ac rydym yn falch fod cymaint o leoedd anhygoel ar draws y sectorau chwaraeon, celfyddydol, treftadaeth a chymuned wedi cofrestru i gynnig eu diolch.”
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi comisiynu’r ffotograffydd, Tom Oldham hefyd i dynnu cyfres portreadau sy’n dathlu’r bobl sy’n ailymweld â’u lleoedd hapus yn dilyn y cyfnod clo.
Mae’r testunau yn cynnwys Daniel Jervis, sy’n obeithiol am fedal yn y gemau Olympaidd, a Xavier Castelli sy’n dychwelyd i’r Pwll Cenedlaethol yn Abertawe. Mae Kate Jones o Bort Talbot hefyd yn rhan o gyfres portreadau newydd wrth iddi ddywelyd i ei ‘lle hapus’ hi, sef Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys y bencampwraig bocsio, Nicola Adams OBE, yng nghylch bocsio Academi Fight for Peace yn Llundain, cyn seren bêl-droed Lerpwl a Lloegr, John Barnes MBE, sy’n hel atgofion yn Stadiwm Wembley; y pensaer, Akiko Kobayashi yn ei hannwyl oriel gelf gasgliadol yng Nghaeredin; y ffotograffydd bywyd gwyllt lleol, Tal Chohan, yn RSPB Sandwell yn Birmingham; a’r awdur a chyfarwyddwr ffilmiau, Marley Morrison yn Sefydliad Ffilm Prydain – BFI Southbank, Llundain. Bydd yr holl leoliadau a ffotograffwyd yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol neu Benwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol.
Roedd yr ymchwil hefyd wedi datdlennu bod:
- Dros hanner (58%) o oedolion Cymru yn cysylltu eu ‘lleoedd hapus’ gyda’u plentyndod
- Mae bron 8 mewn 10 (76%) wedi mynd â’u plant i’w lle hapus yn y gobaith y byddant yn ei fwynhau cymaint ag y gwnânt nhw
- Gwerth am arian (38%) a chanfod pethau newydd am y wlad lle maent yn byw (35%) yw’r hyn mae pobl yn edrych amdano fwyaf yn eu hoff atyniad neu leoliad
- Ar gyfartaledd, roedd y rheini y gofynnwyd eu barn yn teimlo eu bod wedi cael cysylltiad arbennig gydag atyniad penodol Cymreig am oddeutu 15 mlynedd
- Mae’n well gan oddeutu hanner (51%) i ymweld â’r lleoliadau hyn gyda’u partner, byddai bron traen (32%) yn ffafrio mynd yno gyda ffrindiau, tra byddai’n well gan 29% i fynd yno gyda’u plant.
O ddydd Sadwrn 5 Mehefin tan ddydd Sul 13 Mehefin, mae’r arlwy ar gyfer Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn cynnwys mynediad am ddim, ynghyd â gostyngiadau a chynigion unigryw mewn atyniadau a phrofiadau anhygoel ar draws Cymru, i unrhyw un sydd â thocyn neu gerdyn crafu dilys y Loteri Genedlaethol.
Yng Nghymru, gall cefnogwyr ffitrwydd fwynhau sesiwn nofio am ddim ym Mhwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe, gall y sawl sy’n caru hanes fanteisio ar ostyngiadau yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, gall carwyr natur fwynhau mynediad am ddim yn safleoedd y RSPB gan gynnwys Gwarchodfa Natur Conwy a Gwarchodfa Natur Ynys-hir.
Ac i’r rheini y mae eu lle hapus yn golygu mwynhau ffilm yn y sinema, bydd Penwythnos Sinemâu’r Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â Sefydliad Ffilm Prydain (BFI), yn digwydd ar ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Mehefin mewn mwy na 500 o safleoedd sinema led led y DU. Bydd y Penwythnos Sinemâu yn sicrhau fod dros 200,000 o docynnau oedolion am ddim ar gael (ar draws y DU) er mwyn gwylio unrhyw ffilm sy’n cael ei sgrinio ar draws y penwythnos, fel diolch i chi, chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cyfraniad allweddol tuag at ffilm.
I archwilio’r dewis llawn o gynigion sydd ar gael i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys cynigion a gynhelir ar-lein, edrychwch ar www.NationalLotteryUnlocked.com
Bydd amodau a thelerau, a chyfarwyddiadau archebu ar draws y cynigion arbennig yn amrywio. Gwiriwch y cynnig arbennig a restrir am fanylion.
Gwiriwch wefan eich awdurdod lleol a chenedlaethol perthnasol am ragor o wybodaeth ar y sefyllfa lle’r ydych yn byw cyn archebu a chadw lle. Gwiriwch y cyfarwyddyd lleol hefyd cyn teithio.
- DIWEDD -
*Yn ddibynnol ar gadarnhad y bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio yn unol â rhaglenni llwybr y llywodraeth led led y DU allan o’r pandemig.
Cynhaliwyd yr ymchwil defnyddwyr gyda 2,000 o ymatebwyr ym mis Mai 2021 gan One Poll
Ynglŷn â’r Loteri Genedlaethol
- Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi oddeutu £30 miliwn pob wythnos ar gyfer achosion da.
- Ers tynnu’r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae mwy na £42 biliwn wedi cael ei godi ar gyfer achosion da ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymuned
- Ers 1994, mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwobrwyo dros 625,000 o grantiau unigol ar draws y DU.
- Roedd y mwyafrif o grantiau’r Loteri Genedlaethol (70 y cant) ar gyfer £10,000 neu lai, gan helpu prosiectau bychain i wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned!
- Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar https://www.lotterygoodcauses.org.uk/