Mae’r Cyngor yn awyddus i ariannu syniadau i greu rhwydweithiau newydd a chryfhau'r rhai sydd gennym eisoes.
Rydym eisiau ariannu rhwydweithiau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes
Wrth inni geisio ymdopi â’r coronafeirws, mae'n mynd yn bwysicach inni gysylltu ar draws y sector a chefnogi rhannu a chyfnewid gwybodaeth.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn mentrau sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo ac atgyfnerthu amrywiaeth a chynhwysiant sector y celfyddydau ac ehangu ymgysylltiad â chymunedau amrywiol. Rydym ni am glywed pob llais a sicrhau bod pob bywyd o bwys. Rhaid i’n sector gael ei chyfoethogi gan y cymunedau a’r dadleuon sy'n deillio o’r ymgyrchoedd: 'Mae bywyd pobl dduon o bwys' ac 'Ni chawn ein dileu'.
Pa fath o rhwydwaith?
Rydym ni'n agored i wahanol syniadau, gan gynnwys, er enghraifft:
- ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a'u datblygu
- sicrhau clywed lleisiau amrywiol ar draws y sector (yn enwedig cefnogi rhwydweithiau o bobl greadigol sy’n bobl dduon, pobl liw heb fod yn ddu a phobl anabl)
- cynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau, yn enwedig i’r rhai wedi'u datgysylltu am nifer o resymau, gan gynnwys yn economaidd, cymdeithasol a daearyddol (ond am resymau eraill hefyd)
- datblygu modelau ariannu cynaliadwy i gynnal y fath weithgarwch
Mae rhwydweithiau'n gallu bodoli ar bob ffurf a siâp – ffurfiol, anffurfiol, bach a mawr – gan gyfarfod yn rheolaidd neu’n fympwyol. Nid oes dim rhaid iddynt fod yn wyneb yn wyneb, mae modd eu cynnal ar-lein. Ond bydd angen ichi gydymffurfio'n llawn â chyfyngiadau cymdeithasol y coronafeirws.
Bydd y gronfa'n agor ar 18 Medi 2020 ac yn cau 7 Hydref 2020. Dewch nol i'n gwefan yn fuan am fwy o fanylion.