Mae'r Fenter Ddawns Deithiol Wledig (Y Fenter Ddawns) yn brosiect cenedlaethol sy'n cefnogi artistiaid dawns i deithio i leoliadau gwledig ledled y Deyrnas Gyfunol. Gall ein lleoliadau amrywio o neuaddau pentref a llyfrgelloedd i ganolfannau celfyddydol bychain. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am y detholiad nesaf o artistiaid i fynd â'u gwaith presennol i leoliadau gwledig yn ystod hydref 2025 a gwanwyn 2026. Eleni, mae gennym becyn newydd o gefnogaeth i artistiaid sy'n gweithio gydag arddulliau dawns Hip Hop yn eu gwaith.
Mae teithio gwledig yn unigryw, gan gynnig cyfle i chi gwrdd â chynulleidfaoedd mewn lleoliadau agos, ac i drawsnewid gofodau lleol.
"Mae'n anodd i roi mewn geiriau pa mor arbennig yw teithio yng nghefn gwlad. Mae hi bron fel ymweld â theulu nag y’chi wedi cwrdd o’r blaen. Gyda’r holl brofiadau cawson ni â’r sioe hon, ry’ ni wedi cwrdd â phobl sy'n gwneud y gwaith yn wirfoddol, ac felly maen nhw'n gwneud y gwaith hynny gydag angerdd. Ry’ ni wedi aros yng nghartrefi pobl! Mae'n teimlo mor groes i sut mae teithio'n gweithio fel arfer lle nad ydyn ni yn cwrdd â'r person sy'n trefnu'r sioe hyd yn oed, ac mae'n ychwanegu at ansawdd y gwaith."
Artist Teithiol ar Fenter Ddawns Deithiol Wledig 2
O'r alwad hon, mae’r Fenter Ddawns Deithiol Wledig yn curadu 'dewislen' genedlaethol o gynyrchiadau dawns, sy'n cynnwys detholiad o hyd at wyth sioe eithriadol. Bydd rhaglenwyr gwledig yn cael cyfle i ddewis sioeau o'r ddewislen hon ar gyfer eu rhaglenni.
Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan Highlights, NRTF, Sonia Sabri Co, Take Art & The Place. Yn 2022 dyfarnwyd grantiau i'r prosiect gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Esmée Fairbairn er mwyn parhau i gefnogi teithiau dawns rhwng 2022 a 2026. Mae’r Fenter Ddawns wedi ymrwymo i feithrin talent dawns a meithrin cyfnewidfeydd diwylliannol bywiog mewn mannau gwledig.
Mae Joan Cleville, Joshua Nash, Lost Dog, Protein, Aakash Odedra Company ac Uchenna Dance ymhlith yr artistiaid blaenorol a gefnogir gan y prosiect.
YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO
GOFYNION Y SIOE DEITHIOL:
- Gwaith sy'n barod ar gyfer taith, a fydd wedi cael ei berfformio am y tro cyntaf erbyn diwedd mis Awst 2024.
- Cynyrchiadau sy'n gallu darparu noson lawn o adloniant, yn ddelfrydol awr ( a mwy) o hyd, neu sydd wedi ystyried gweithgarwch ychwanegol o amgylch y sioe i'w hymestyn, neu i gynnig elfen ôl-sioe ar ôl egwyl.
- Dawns o ansawdd uchel o bob math ac arddull.
- Sioeau nad sydd â gofynion technegol heriol, neu sy’n teithio gyda'r holl offer technegol sydd ei angen.
- Artistiaid sy'n awyddus i gwrdd â chynulleidfaoedd dawns newydd a chofleidio perfformio y tu allan i theatr draddodiadol.
Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd ag ystod o brofiadau byw ac o amrywiaeth o gefndiroedd, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector dawns, gan gynnwys artistiaid o gefndiroedd Mwyafrif Byd-eang, artistiaid sy'n uniaethu fel LHDTCRhA+, artistiaid anabl ac artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol heriol.
Rydym yn rhagweld cynnwys o leiaf un cynhyrchiad sy'n addas i deuluoedd ac un gwaith digidol.
Yr hyn bydd artist llwyddiannus yn ei derbyn:
- Ffioedd Perfformiad: Ffioedd perfformiad teithiau yn amrywio o £1,200 i £1,500, gan gynnwys TAW. Mae'r ffioedd hyn yn cael eu pennu yn seiliedig ar raddfa, a chostau cynhyrchu eich sioe.
- Bwrsariaethau Addasiadau: Cymorth ariannol o hyd at £2,000 i hwyluso addasu eich sioe ar gyfer heriau a chyfleoedd penodol teithio gwledig.
- Cyfleoedd Preswyl: Y cyfle i ymgymryd â phreswyliad trochol mewn lleoliad Menter Ddawns Deithiol Wledig, lle gallwch fireinio'ch cynhyrchiad presennol neu ddatblygu gwaith newydd ac arloesol ar gyfer Teithio Gwledig
- Arbenigedd Teithio Gwledig: Amser â thâl i fynychu ein cwrs preswyl 'An Introduction to Rural Touring', gan gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i deithio mewn lleoliadau gwledig.
- Cymorth Marchnata a Chynhyrchu: Cymorth cynhwysfawr wrth farchnata a chynhyrchu eich sioe, gan sicrhau'r gwelededd a'r ymgysylltiad mwyaf posibl â chynulleidfaoedd gwledig.
- Datblygu Hygyrchedd: Arweiniad a chymorth ariannol i wella hygyrchedd eich sioe deithiol, meithrin cynwysoldeb ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol.
- Cynaliadwyedd Amgylcheddol: Canllawiau i leihau ôl troed amgylcheddol eich cynhyrchiad, sy'n cyd-fynd â'n hethos o arferion teithio cyfrifol.
Am ganllawiau manwl a gwybodaeth am geisiadau, ewch i'r ddolen a ddarperir. Rydym yn argymell darllen yr holl ganllawiau yn llawn cyn cyflwyno eich cais.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!
SUT I WNEUD CAIS
DYDDIADAU ALLWEDDOL
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 9yb Dydd Llun 29ain Gorffennaf 2024
Hysbysu artistiaid eu bod wedi cael eu dewis ar gyfer dewislen 2025/26 - w/d 8fed Hydref 2024
Cyflwyniad Ymarferol i Labordy Teithio Gwledig w/d 11eg Tachwedd 2024.
Os gwelwch yn dda, llenwch un o'n ffurflenni monitro Cyfle Cyfartal hefyd. Mae'r ffurflen fonitro Cyfle Cyfartal yn ddewisol, a bydd yn ein helpu i fonitro a yw ein Galwadau yn cyrraedd grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein rhaglenni ar hyn o bryd. Bydd y ffurflenni hyn yn cael eu hadolygu gan ein tîm Adnoddau Dynol ac ni fydd y panel dethol yn eu gweld. Dilynwch y ddolen hon i'r ffurflen. https://forms.office.com/r/uMKeByamNe
Os ydych chi'n bwriadu gwneud cais, a bod cyfleoedd i weld eich gwaith yn fyw rhwng Mehefin a Medi 2024 yna gwahoddwch ni i weld eich gwaith drwy e-bostio producing@theplace.org.uk . Ni allwn warantu y bydd rhywun yn gallu mynychu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch producing@theplace.org.uk
Beth sy'n digwydd os ydych yn cael eich dewis
- Mynychu ein Cyflwyniad i Labordy Teithio Gwledig ar gyfer Dawns w/d 11 Tachwedd 2024. (gorfodol)
Mae'r Lab yn gyfle i un cynrychiolydd, un ar gyfer pob cwmni, gyfarfod â phobl o bob agwedd ar ecoleg deithiol wledig a meddwl sut y gallwn wneud sioeau dawns gwell ar gyfer lleoliadau gwledig/neuaddau pentref a chynulleidfaoedd. Byddwch yn dysgu am sut mae cynlluniau a hyrwyddwyr teithio gwledig yn gweithio, yn meddwl am sut i addasu eich gwaith o fewn cyfyngiadau teithio i neuaddau pentref a gofodau anhraddodiadol, a sut i wneud sioeau i gymunedau mewn lleoliadau gwledig.
Bydd adnoddau ar-lein yn cyd-fynd â'r labordy hwn, y gallwch eu rhannu ag aelodau eraill o'ch cwmni.
Bydd llety a theithio ar gyfer y labordy yn cael eu cwmpasu gan Y Fenter Ddawns, a byddwch yn derbyn ffi o £500 am gymryd rhan yn y labordy.
Petaech chi yn cael eich dewis ar gyfer y ddewislen gwaith ar-lein, yn dibynnu ar fformat a'r modd y bydd yn cael ei rannu, efallai na fydd angen i chi fynychu'r labordy, ond efallai y byddwch yn dymuno hynny, a bydd ffi yn cael ei thalu i chi os byddwch yn mynychu.
- Os oes angen, byddwch yn gwneud addasiadau i'ch sioe fel ei bod yn addas ar gyfer teithio gwledig.
Ar gyfartaledd, mae bwrsariaethau o £2,000 ar gael i artistiaid wneud addasiadau i sioeau i'w gwneud yn fwy priodol ar gyfer heriau ymarferol teithio gwledig. Os cewch eich dewis i fynd ar daith o amgylch eich sioe, byddwn yn siarad â chi ynghylch a oes angen hyn ar gyfer eich sioe.
- Bydd eich sioe yn ymddangos yn y nawfed ddewislen ddawns genedlaethol.
Bydd y ddewislen yn cael ei dosbarthu i gynlluniau teithio gwledig ym mis Ionawr 2025. Mae 'dewislen' yn grŵp dethol o sioeau a gynigir i gynlluniau teithio gwledig a'u hyrwyddwyr lleol, i ddewis pa sioe y maent am ei chynnal yn eu lleoliad. Bydd Cynhyrchydd a Chydlynydd yn brocera diddordeb posibl o gynlluniau a hyrwyddwyr lleol ochr yn ochr ag argaeledd y cwmnïau dawns y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.
Nid oes sicrwydd y bydd eich sioe yn cael ei dewis ar gyfer teithio. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd pob sioe ar y ddewislen yn cael ei harchebu ar gyfer pedwar i wyth perfformiad. Mae'r ffi deithiol yn cael ei chymhorthdal drwy'r cynllun, a bydd yn cael ei drafod fesul achos. Mewn 25/26 bydd ffioedd yn amrywio o £1,200 i £1,500 y perfformiad. Mae hyn yn cynnwys TAW. Dylai unrhyw weithgaredd cofleidiol sy'n gysylltiedig â'ch sioe gael ei gostio ar wahân.
Ein nod yw trefnu teithiau sy'n lleihau’r angen i deithio ac sy’n lleihau’r ôl troed ecolegol.
Bydd y teithiau yn cael eu cynnal rhwng Medi 2025 a Mehefin 2026.
Sut i wneud cais a sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau
I ymgeisio, llenwch y ffurflen gais yma erbyn 5pm Dydd Mercher 17eg Gorffennaf 2024.
Gallwch lawrlwytho dogfen PDF neu Word i weld cwestiynau'r cais RTDI Call Out 2024_Question Download.docx. Rydym yn argymell ysgrifennu eich cwestiynau yn y ddogfen, ac yna copïo'ch atebion i'r ffurflen.
Llenwch un o'n ffurflenni monitro Cyfle Cyfartal hefyd. Mae'r ffurflen fonitro Cyfle Cyfartal yn ddewisol, a bydd yn ein helpu i fonitro a yw ein Galwadau yn cyrraedd grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein rhaglenni ar hyn o bryd. Bydd y ffurflenni hyn yn cael eu hadolygu gan ein tîm Adnoddau Dynol ac ni fydd y panel dethol yn eu gweld. Dilynwch y ddolen hon i'r ffurflen.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch yn ystod y broses ymgeisio gan gynnwys ysgrifennu'r cais neu os byddai fformat neu broses ymgeisio arall yn fwy hygyrch i chi, cysylltwch â producing@theplace.org.uk a byddwn yn ceisio gwneud trefniadau fel sy’n briodol.
Dewisir y sioeau gan banel sy'n cynnwys hyrwyddwr teithio gwledig a chynrychiolwyr 3 o bartneriaid Y Fenter Ddawns (The Place, NRTF, Take Art, Sonia Sabri Co a Highlights).