Ochr yn ochr â Dynolwaith (26 Medi-4 Hydref), ei gyd-gynhyrchiad newydd sbon gyda Frân Wen, mae Theatr y Sherman wedi curadu cyfoeth o dalent Gymreig yr Hydref hwn, gyda rhaglen o sioeau yn ymweld â’r theatr ac sy'n cwmpasu sawl genre.

Mae'r digrifwyr Henry Paker, Benjamin Partridge a Mike Wozniak yn dod â'u Three Bean Salad Podcast - enillydd gwobr y Podlediad Gorau yng Ngwobrau Chortle yn 2024 ac a gynhyrchwyd gan Little Wander, i'r Sherman (13 Medi).

Darganfyddwch dri byd newydd, o fytholeg hynafol hyd at ffuglen wyddonol y dyfodol, yn Gwefr; triphlyg Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o ddawns hudolus a dyluniad godidog (17-19 Medi).

Mae angerdd dwfn yn cwrdd â thryblith llwyr yn Romeo a Juliet, archwiliad newydd Theatr Cymru o'r stori garu drasig enwog, gan osod y ffrae dreisgar rhwng y teulu Montague a'r teulu Capulet yng Nghymru ddwyieithog (29 Medi-3 Hydref).

Mae trosedd, cyfiawnder, gofal plant a phwy sy'n gofalu am y plant pan fydd mam yn cael ei hanfon i'r carchar wrth wraidd drama bwerus Siân Owen, A Visit (gweler y ddelwedd, uchod), a gynhyrchwyd gan Papertrail mewn cydweithrediad â Clean Break (7-8 Hydref). Mae'r darn theatr gafaelgar hwn wedi'i ysbrydoli gan straeon bywyd go iawn y menywod a'r bobl ifanc y mae'r cwmni wedi gweithio gyda nhw.

A chan y cwmni arobryn Theatr na nÓg daw The Fight, drama newydd gan Geinor Styles, wedi'i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ymladd profiadol Kev McCurdy, yn adrodd stori wir chwedl bocsio o Gymru (16-22 Hydref).

Mae tocynnau ar gyfer y pum sioe ar werth nawr ar wefan Theatr y Sherman, www.shermantheatre.co.uk/?lang=cy.