Yn dilyn ein Fforwm yn 2018, gwahoddwyd y siaradwyr ac artistiaid o'r dydd i ymateb i'r sefyllfa bresennol – i weld beth sydd wedi newid, a beth y gellir ei wneud.
Mae Malú Ansaldo yn arweinydd celfyddydol rhyngwladol, curadur a chynhyrchydd, yn wreiddiol o'r Ariannin. Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Dros Dro yn y cynllun Byw a Digidol gyda Chelfyddydau Battersea, ar ôl gweithio yn y Roundhouse fel Pennaeth y Celfyddydau Perfformio a National Theatre Wales. Yno roedd yn Gynhyrchydd Gweithredol gan arwain ar dymor ‘Love Letter to the NHS’ a ‘Tide Whisperer’. Mae hi’n aelod bwrdd Counterpoint Arts.
Mae'r pandemig yn aros a lledaenu ac wrth fod y gaeaf yn ein cyrraedd, mae'r byd yn teimlo’n llai, hyd yn oed nag ydoedd ar ddechrau’r cyfnod cloi. Roedd yn rhaid inni newid trefn ein diwrnodau, cefnu ar ein swyddfa, ein stiwdio ymarfer a’n lleoliad. Mae cadair a chornel yn y tŷ wedi troi’n swyddfa a’n gardd yn gampfa. O’n cartref rhaid inni ailddysgu sut i gysylltu â'r byd eto: drwy’r sgrin.
Roedd y byd wedi crebachu ond roedd hefyd yn sydyn iawn ar flaenau ein bysedd. Dechreuodd pobl sylweddoli bod cyfarfodydd amhosibl gynt oherwydd pellter yn bosibl nawr a bod yn bosibl cydweithio’n greadigol mewn ffyrdd na fu’n fforddiadwy o ran amser a chyllideb. Waw!
Ond gyda’r dewis hollol rydd – pwy all benderfynu ar y rhai iawn?
Dwi wedi clywed am bobl yn treulio oriau’n ymchwilio ac yn ceisio ymdopi â gwefannau di-rif mewn ieithoedd anghyfarwydd ar ochr arall y byd i ddod o hyd i artist ond gan anghofio gofyn i'w ffrindiau! Ffrindiau cyfagos, yn byw a gweithio yma yn y DU ond efallai o ochr draw'r byd yn wreiddiol. Mae eich cydweithwyr a chyfoedion sy’n gweitho yn y sector hefyd ar flaenau eich bysedd.
Ers cyn y pandemig mae mudiad cryf, Mudwyr mewn Diwylliant, yn datblygu yn Llundain. Mae’n uno lleisiau celfyddydol ar gefndir gelyniaethus brexit. Dyma ragor amdano: http://migrantsinculture.com
Y llynedd roeddwn wedi llenwi ei arolwg cyntaf a chael fy syfrdanu – doedd neb wedi gofyn y cwestiynau yma imi o’r blaen. Es i i’w gyfarfod yn Ionawr eleni a synnais wrth weld yr amrywiaeth yn yr ystafell - gwahanol sectorau, gwahanol oedrannau, gwahanol swyddi, gwahanol weledigaethau – i gyd yn yr un lle yn erbyn bygythiad cyffredin. Roeddwn i wrth fy modd.
Hefyd dechreuodd grŵp arall, Mudwyr yn y Theatr. Mae ar gael ar drydar: @MigrantsTheatre neu ar: https://mailchi.mp/1a914a8fdbc0/migrants-in-theatre
Mae achosion cyffredin yn uno gweithwyr theatr â’u gweledigaethau cyson. Daw rhai o waith unigolion ac eraill o waith sefydliadau megis Global Voices Theatre a Cut the Cord.
Creodd y cyfnod cloi gyfle i drafod mudwyr ar-lein a dechrau ymdrefnu. Mae llawer yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gymorth gan y llywodraeth am wahanol resymau – bod yn anweledig neu drafferthion gyda theithebau. Tyfodd y grŵp i fod yn un eiriol, yn rhwydwaith lobïo a chefnogi gyda chysylltiadau gwych.
Daeth y rhan fwyaf ohonom i Brydain i astudio neu weithio yma, ac mae gennym gysylltiadau cryf o hyd â chymunedau artistig ein gwledydd gwreiddiol. Rydym yn siarad â'n ffrindiau gartref ac yn deall beth sy'n digwydd yno. Rydym yn siarad yr un iaith â nhw.
Yn y dimensiwn arall a elwir yn Ŵyl Ymylol Caeredin, clywais grŵp o raglenwyr yn dweud mai dim ond un cwmni o America Ladin oedd yn cyflwyno gwaith yno ar y pryd. Ces i fraw oherwydd roedd tri artist gwych o America Ladin (ond sy'n byw yma) yn cyflwyno eu gwaith. Dyw hynny ddim yn llawer ond o ran y gymuned America Ladin mae'n sylweddol. Pam na chawsant eu cydnabod? Ydy pobl ddim ond yn rhyngwladol os cyrhaeddon nhw yr ŵyl mewn awyren? Yn ffodus, roeddem wedi cyfarfod â’n gilydd drwy ein mudiad ein hunain sydd ddim ond yn 2 flwydd oed: LAIPA (Americaniaid Lladin yn y Celfyddydau Perfformio). Roeddwn yn gallu trefnu cyfarfod i bawb yn ystod. Yno roedd rhaglenwyr o America Ladin yn gallu cwrdd â'r bobl sy'n cynrychioli eu gwledydd yn y rhaglen. Roedd cyfarfodydd LAIPA bob pythefnos yn nechrau’r cyfnod cloi i gefnogi ein gilydd gyda cheisiadau a chyfleoedd ariannu. Mae cael cymuned fwy ffurfiol yn y sector wedi ein grymuso a chryfhau cysylltiadau a chodi ymwybyddiaeth. Mae llawer o theatrau mawr bellach yn estyn allan at ein grŵp wrth chwilio am artistiaid o America Ladin. Rydym hefyd wedi llwyddo i gael Cyngor Celfyddydau Lloegr i ymrwymo i gynnwys blwch am America Ladin yn ei ffurflenni monitro sy’n gamp hanesyddol. Bydd data’n ein gwneud yn weladwy gyda llais a grym.
Ers blynyddoedd mae camgynrychioli ar y llwyfan ac oddi arno gyda llai o gyfleoedd a llwybrau caletach i lawer a ddewisodd fyw yma. Mae cyfleoedd yn brin: yn enwedig i wneud gwaith sy'n cynrychioli eich cefndir a'ch treftadaeth eich hun. Fel arfer mae hyn ddim ond yn bosibl drwy waith unigolion. Os ydym am gael llwyfan sy’n cynrychioli'r holl fannau lle'r ydym yn byw ac yn gweithio, mae eisiau’r straeon yma.
Felly cysylltwch â ni, Mudwyr mewn Theatr ac mewn Diwylliant, pan fydd angen pont neu gysylltiad â lleoedd pell neu ffordd o sefydlu’r fath bont. Mae'r byd ar flaenau ein bysedd ond nid drwy deithio o bosibl. Efallai mai dyma'r adeg i ddathlu'r ffaith mai calon ryngwladol sy’n curo ym mynwes Prydain. Dyma'r amser i werthfawrogi amrywiaeth y sector.
Felly y tro nesaf y byddwch am gysylltu â chwmni, dramodydd neu gyfansoddwr tramor, beth am edrych yn nes adref? Gweithiwch gyda ni, datblygwch bethau gyda ni, gwahoddwch ni i'ch lleoliad, siaradwch â ni i gael gwybod rhagor am y lle pell i ffwrdd sy’n gartref inni.
Yma yr ydym. A hynny ers canrifoedd.
Mae digwyddiad Mudwyr mewn Theatr yn cael ei chynnal yr wythnos hon ar ddydd Gwener 16 Hydref:
https://www.eventbrite.co.uk/e/migrants-in-theatre-london-town-hall-tickets-121926504457
Mae wedi ei chefnogi gan nifer o sefydliadau yn Llundain ac yn agored i fudwyr sy’n byw ac yn gweithio yn unrhyw rhan o’r DU.