Bydd The Women of Llanrumney, drama hanesyddol ddinistriol Azuka Oforka sydd wedi’i gosod ym mhlanhigfa siwgr Llanrhymni yn Jamaica yn y 18fed ganrif, yn cael ei pherfformio yn Stratford East yn Llundain cyn dychwelyd i Theatr y Sherman y gwanwyn hwn.

Wedi ymateb cryf gan gynulleidfaoedd, mae cyd-gynhyrchiad 2025 yn dilyn cynhyrchiad gwreiddiol Theatr y Sherman a werthodd bob tocyn yng Nghaerdydd Mai-Mehefin 2024, ac a ddenodd adolygiadau ffafriol dros ben (★★★★★ The Guardian). Mae’r ddrama yn trosglwyddo i Stratford East 19 Mawrth-12 Ebrill 2025 cyn dychwelyd i theatr y Sherman yng Nghaerdydd, 26 Ebrill-10 Mai 2025.

Cafodd planhigfa Llanrhymni ei sefydlu gan Syr Henry Morgan, dyn oedd yn troi pobl yn geithweision (enslaver) a oedd yn wreiddiol o Lanrhymni yng Nghaerdydd - dyna pam ei henw - ar ddiwedd y 1600au. Roedd gweld portread ohono yng Nghaerdydd wedi ysbrydoli Azuka i archwilio canlyniadau ac etifeddiaeth rôl Morgan fel rhywun oedd yn troi pobl yn geithweision. Yn dilyn ymchwil Azuka i hanes dilynol y blanhigfa, mae The Women of Llanrhymni yn taflu goleuni ar y bennod gudd hon o hanes Cymru, ac yn archwilio profiad merched yn ystod caethwasiaeth; y rhai a elwodd ohono, y rhai a gafodd eu creuloni ganddi a'r rhai a ymladdodd i'w ddinistrio.

1765. Mae Cerys a'i mam Annie wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan cyfoethog o Gymru. Mae eu dyfodol yn hongian yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth allai fod o'i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond yn hwyr neu'n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu, bydd yn rhaid i Annie wynebu'r arswyd a'r trawma o'i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.

Yn dychwelyd i’w rolau eleni bydd Artist Cyswllt Theatr y Sherman Suzanne Packer fel y caethwas Annie, Nia Roberts fel Elizabeth Morgan, disgynnydd ffuglennol i Henry Morgan, a Matthew Gravelle fel Simon Taylor a rolau eraill. Mae Shvorne Marks yn ymuno â'r cast i chwarae Cerys, merch Annie.

Mae'r tîm creadigol gwreiddiol yn dychwelyd; Artist Cyswllt Theatr y Sherman Patricia Logue fel Cyfarwyddwr, y Dylunydd Set a Gwisgoedd Stella-Jane Odoemelam, y Dylunydd Goleuo Andy Pike, y Cyfansoddwr Takisha Sargent a’r Dylunydd Sain Ian Barnard.