Tymor o berfformiadau byw croesi ffiniau ffurf, ffantasi, cof a realiti drwy resymeg ecolegol, cwiar a hylifol.
___
Rhys Slade–Jones: Artist Preswyl / Bwrsariaeth Perfformio Mike Pearson
Medi – Rhagfyr 2025
Artist rhyngddisgyblaethol o Dreherbert sy'n byw ac yn gweithio yn y de–ddwyrain. Mae eu gwaith yn myfyrio ar ecolegau cwiar a natur gynhenid wleidyddol llawenydd. Sefydlwyd y fwrsariaeth er cof am Mike Pearson (1949–2022).
Anushiye Yarnell: Archipelago Movement
Medi – Rhagfyr | Dydd Llun, 9.30–11am | £6/£8/£10/£12
Dosbarthiadau symudiad creadigol, tyner, hyblyg, ac yn agored i bawb.
Trothwy: YR HWYL wedi’i guradu gan Dylan Huw
11 Medi, 7.30pm | £6/£8/£10/£12
Ein noson reolaidd o berfformiadau arbrofol. Gallwch ddisgwyl ysbryd calon agored, llafarganu, ymchwydd ecstasi brwd, rhyddhad mawr o ewfforia, a thân a brwmstan.
Karen Christopher, Tara Fatehi a Jemima Yong: Skywater, Facewater, Underwater Waltz
17 ac 18 Medi, 7.30pm | £14/£12
Perfformiad rhyngddisgyblaethol sy’n archwilio diwylliannau ac amgylchedd dyfnderoedd y môr.
Andre Stitt: The Institution (Revisited)
4 Hydref, 2–7pm | £14/£12
Perfformiad hirbarhaus yn ymchwilio i gof, ei fethiant a bywydau ar ôl trawma. Gyda’r artistiaid Sinéad O’Donnell, Jamie McMurry a Charlie Lockwood.
5 Hydref, 12–4pm
Gosodwaith ar agor i'w weld, ac yna trafodaeth banel gyda'r Athro Heike Roms, 4pm
SERAFINE1369: (my body / running wild / this animal) glorious
9 Hydref, 7.30pm | £16/£14
‘Alla i ddim dianc rhagddo, mae dawnsio yno bob amser...’ ‘Gwaith ar waith’ grŵp.
Bragod a Rhodri Davies: Autumn Ripens
13 Hydref, 7.30pm | £14/£12
Y drydedd mewn cyfres o gynigion tymhorol. Gyda'r telynor radical, Rhodri Davies.
Nosweithia Vogue: Gwychder Pobl Ddu
17 Hydref, 7–11pm | £14/£12
Profwch rythm gwrthsafiad ac undod mewn digwyddiad Kiki sy’n Agored i Bawb yng Nghaerdydd, wrth ddathlu gwychder pobl Ddu.
Performance Art Land
20–25 Hydref, amseroedd ar y wefan | Am ddim
Gwaith perfformiad i gamera safle–benodol newydd mewn safleoedd treftadaeth a mannau awyr agored yng Nghymru. Yn cynnwys Angela Davies, Tsubasa Kato, Li Binyuan a Anushiye Yarnell.
Cŵm Rag: Nos Galan Gay-AF! 2 Ghosted Again
31 Hydref, 8pm | £14/£12
Ymunwch â chwfen ansanctaidd brenhiniaeth drag mwyaf ffyrnig Cymru wrth iddyn nhw fwrw swyn dros yr heteronormatig, dawnsio gyda’r diafol, a gweini arswyd a hiwmor camp drwy’r nos.
Trothwy: Do it Yourself wedi’i guradu gan Common/Wealth
4 Tachwedd, 7.30pm | Am ddim
Ein noson reolaidd o berfformiadau arbrofol. Yn dathlu eu llyfr newydd, sy’n rhannu eu hymagwedd ymgyrchu a DIY wrth greu perfformiadau.
Beth Greenhalgh a Tim Bromage: (Un)conscious Content
14–16 Tachwedd, amseroedd ar y wefan | £14/£12
Y cyntaf mewn cyfres o berfformiadau sy’n archwilio pensaernïaeth amrywiol ac anarferol breuddwydion.
Trevor Mathison a Gary Stewart: Black Industrial/Noise
29 Tachwedd, 7.30pm | £14/£12
‘Cyngerdd-draethawd’ radical sy’n adennill llinach ôl-drefedigaethol tecno a sŵn, o fewn cysyniad ‘Diwydiannaeth Ddu’ llac ei ddiffiniad.
Trothwy: Work, Werk, W*rk wedi’i guradu gan Umulkhayr Mohamed
6 Rhagfyr, 7.30pm | £6/£8/£10/£12
Ein noson reolaidd o berfformiadau arbrofol. Yn cyfleu amgylcheddau cymunedol y gweithle a’r clwb i archwilio ble mae llafur yn cael ei golli a’i adennill.
Bragod: Winter Confines
10 Rhagfyr, 7.30pm | £14/£12
Ymunwch â ni yn rhan olaf y gyfres o gynigion tymhorol gan Bragod. Gyda gwestai arbennig.
Bopa Rhys: A Crackin Christmas
12 Rhagfyr, 8pm | £14/£12
Croeso i fyd rhyfeddol o anwadal Bopa Rhys, ac ymunwch â hi ar ei hymgais i archwilio’r Nadolig a chwestiynu ei fecanwaith.