Bydd y cwmni theatr i blant, Theatr Iolo, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn rhyfeddu cynulleidfaoedd ifanc yn Warsaw gyda’u sioe sy’n seiliedig ar lyfr plant 1975, Owl at Home, gan Arnold Lobel. Mae’r stori hydrefol ar gyfer plant 5-11 oed am dylluan sy’n byw ar ben ei hun ac sy’n canfod hwyl a chyfeillgarwch ymhlith ei unigrwydd.

“Rydym wrth ein boddau’n mynd ag Owl at Home i Wlad Pwyl i fod yn rhan o Ŵyl Theatr i Blant a Phobl Ifanc KORCZAK TODAY. Mae ein haddasiad o’r stori glasurol yn cyfuno comedi gweledol, cerddoriaeth a symudiad i ysbrydoli plant i archwilio byd rhyfeddol eu dychymyg."
Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig

“Mae Owl at Home gan Theatr Iolo yn gynhyrchiad hudolus ac yn gyfraniad hyfryd i Dymor y DU/Gwlad Pwyl 2025. Rydym yn falch o weld creadigrwydd Cymru yn ganolog i’r cyfnewid diwylliannol pwysig yma. Mae gan theatr allu arbennig i danio dychymyg a chysylltiad rhwng pobl ifanc, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r bartneriaeth gynyddol yma rhwng Cymru a Gwlad Pwyl."
Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Wales

Mae Owl at Home yn sioe ddoniol ac ystyrlon am dylluan (Owl) sy’n byw ar ben ei hun mewn cartref clyd yn y goedwig. Heb neb yn gwmni iddo, mae Owl yn canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd o basio’r amser. Mae’n pendroni llawer am bethau, ond weithiau mae ei ddychymyg yn carlamu ac mae pethau cyffredin o’i gwmpas yn dechrau dod yn fyw! Ymhlith yr anrhefn mae Owl yn dod o hyd i ffrind annisgwyl sy’n barod i’w ddilyn i ben draw’r byd... p’un a yw Owl yn dymuno hynny neu beidio! Stori hudolus gyda cherddoriaeth, mae Owl at Home yn dangos sut mae cyfeillgarwch i’w ganfod yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.

Perfformiwyd Owl at Home yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2022 a 2023, cyn teithio i Tsieina yn 2024 ac mae bellach ar fin cael ei berfformio yng Ngwlad Pwyl am y tro cyntaf. Ysgrifennwyd Owl at Home ar gyfer y llwyfan gan Rina Vergano ac fe gyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford, gyda’r actor a’r cerddor, George Williams yn serennu fel Owl. 

Perfformir Owl at Home rhwng 17 a 19 Hydref 2025, yng Ngŵyl Theatr i Blant a Phobl Ifanc  KORCZAK TODAY. Cefnogir Owl at Home gan y British Council dan Dymor y DU/Gwlad Pwyl  2025. Mae Tymor y DU/Gwlad Pwyl yn fenter ar y cyd rhwng y British Council, Sefydliad Diwylliannol Gwlad Pwyl yn Llundain a Sefydliad Adam Mickiewicz yn Warsaw, yn cyflwyno dros 100 o ddigwyddiadau deinamig ar draws y ddwy wlad yn ystod 2025.

I ddysgu mwy am Dymor y DU/Gwlad Pwyl ewch i:
https://www.britishcouncil.pl/en/programmes/uk-poland-season-2025