Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn Showcase Scotland, sy’n ran o Celtic Connections yng Nglasgow yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad yn un o brif gyfleoedd yn yr Alban i groesawu’r diwydiant gerddoriaeth o bedwar ban i ddarganfod cerddoriaeth gwerin a cherddoriaeth byd. Mae Celfyddydau Rhynglwadol Cymru am fod yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu ac adeiladu ein perthnasau agos gyda phartneriaid a cherddorion yn yr Alban.
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi cefnogi dirprwyaeth o Gymru i fynychu’r digwyddiad, gan gynnwys gynrychiolwyr o Tŷ Cerdd, Gŵyl y Llais, Canolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Ogwen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn ogystal a chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George, a chynrychiolydd o dîm Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru, Gwilym Evans.
Hefyd yn mynychu’r digwyddiad bydd Pontio, British Council Wales, Focus Wales, Fire in the Mountain, Gŵyl Werin Tredegar House a Trac.
Bydd cyfle i gwrdd a’r holl fynychwyr o Gymru yn y ffair fasnach ar ddydd Gwener, 31 Ionawr am 09:30 – 14:30 ar stondin Cerdd Cymru: Music Wales.
Mae rhagor o gynnwys o Gymru dros y penwythnos, gan gynnwys The Trials of Cato, enillwyr gwbor albwm gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 flwyddyn diwethaf. Byddant yn cefnogi Fiona Hunter nos Wener 31 Ionawr, a bydd Angharad Davies yn perfformio fel rhan o ‘Yng Ngheredigion’ ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.
Am wybodaeth am y perfformiadau a thocynnau, ewch i: https://www.celticconnections.com/whats-on/calendar/