Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Dwed dy stori di...
Rydw i’n unigolyn tawel sydd wastad wedi dotio at gerddoriaeth a’r gair ysgrifenedig. Dyma rydw i’n ei ddefnyddio i adrodd fy stori drwy ganeuon. Rydw i’n ffodus fy mod wedi dod ar draws athrawon a mentoriaid ar hyd y daith sydd wedi fy helpu i feithrin y ddau beth yma rydw i’n ei fwynhau cymaint, sef creu cerddoriaeth ac adrodd straeon, a bod hyn yn rhoi bywoliaeth i mi. Mae cerddoriaeth yn iachaol iawn, ac fel sawl un arall, dydy fy stori i ddim wedi bod yn un hawdd o hyd. Ond mae cerddoriaeth yn fodd o fynegi’r hyn na alla’ i ei fynegi drwy eiriau’n unig.
Beth yw dy gysylltiad di â dy gornel fach o Gymru?
Mi ges i fy magu yng Nghaernarfon. Mae cartre’ fy nheulu ar lannau’r Fenai, sef y culfor sy’n gwahanu Ynys Môn a thir mawr Cymru. Mae’r culfor hwn wedi fy ysbrydoli ers oeddwn i’n ferch ifanc, ac mae wastad yn rhoi’r gofod a’r llonyddwch y mae eu hangen arna’ i fel unigolyn creadigol. Rydw i’n dal i fyw ar lannau’r Fenai, ond ychydig filltiroedd i’r dwyrain o ble cefais i fy magu. Rydw i’n mynd i lawr at y dŵr y rhan fwyaf o ddiwrnodau gyda fy nghi, ac yn aml yn nofio yno.
Mae gan Gymru straeon am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw dy gerddoriaeth di’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?
Rydw i’n teimlo cysylltiad â’r gorffennol pryd bynnag y bydda’ i’n canu caneuon gwerin traddodiadol Cymreig, gan fod rhai ohonyn nhw mor hen. Mae nifer yn trafod cymeriadau o’r chwedlau, yn rhai mawr a bach. Rydyn ni’n ffodus fod gennyn ni lawer o gerddorion yng Nghymru sy’n tyrchu i’r archifau i ddod o hyd i’r gweithiau hyn a rhoi bywyd newydd iddyn nhw. Rydw i’n ddiolchgar i’r haneswyr cerddorol hyn!
Wrth gyfansoddi fy hun, rydw i wrth fy modd yn defnyddio cymeriadau clasurol o’r chwedlau i fynegi gwirioneddau oesol, neu i gwestiynu’r hyn rydyn ni’n credu sy’n ‘hysbys’ neu’n ‘sefydlog’.
Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig?
Mae’r Gymraeg yn rhywbeth prydferth tu hwnt. Mae ganddi gynifer o straeon, geiriau a ffyrdd o fynegiant a fyddai’n cael eu colli mewn cyfieithiad, felly rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod i’n siarad yr iaith ac yn dysgu mwy bob dydd.Mae’n llinyn cyswllt â’r gorffennol ac yn edefyn rhyfeddol yn nhapestri hanes.
Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a thithau yn eu plith drwy dy gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?
Cymru amrywiol a chynhwysol, lle mae’r meicroffon yn cael ei basio i bobl ar gyrion cymdeithas, pobl nad ydyn nhw wedi cael llais yn y gorffennol. Mae Cymru’n wlad a chanddi sawl diwylliant ac iaith, ac mae’r straeon hyn a’r chwedleuwyr hyn yn creu tapestri hyfryd. Mae Cymru’n defnyddio grym adrodd straeon i ddyrchafu pobl eraill. Yn fy ngherddoriaeth i, rydw i’n hoffi rhoi llais i fyd natur hefyd, yn y gobaith y bydd mwy o bobl yn gwrando ac yn clywed.
Beth yw dy gysylltiadau Celtaidd di?
Fy ymdeimlad dwfn o berthyn i dir a cherddoriaeth Cymru yw’r cysylltiad pwysicaf y gallwn i obeithio’i gael. Mae gen i gysylltiad hefyd â Galisia, ers y cyfnod pan gerddais i lwybr y Camino ar draws Gogledd Sbaen, ac â Lorient ar ôl dod o hyd i ffrindiau a chymuned yng ngŵyl ryng-Geltaidd ragorol Llydaw.
Rwyt ti ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd rwyt ti’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?
Rydw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Lydaw gan fy mod i’n teimlo rhywbeth yn fy nhynnu i yno. Rydw i am fod yn rhyddhau llawer o gerddoriaeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf; mae fy albwm cyntaf bron â’i gwblhau ac rydw i’n edrych ymlaen at rannu hwnnw a mynd ar daith. Rydw i hefyd yn cydweithio â Sera, fy ffrind annwyl, ar EP Cymraeg, gyda chaneuon sydd wedi’u hysbrydoli gan fyd natur.