Wyt ti'n artist Anabl neu Fyddar sydd am gydweithio'n rhyngwladol? Neu'n sefydliad celfyddydol sy'n gweithio gydag artistiaid Anabl/Byddar sydd am ddatblygu prosiectau neu rwydweithiau rhyngwladol?

 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn cydweithrediad â Disability Arts Cymru yn cynnal sesiynau personol ar 21 Hydref, o 09:00am i 12:00pm er mwyn cefnogi

  • pobl Anabl a Byddar
  • sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl Anabl a Byddar

sydd sydd â diddordeb yn y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol



Yn y sesiynau personol, bydd cyfle i drafod:

  • Pa fath o brosiectau mae'r gronfa'n gallu ariannu (gan gynnwys gweithgareddau digidol neu hybrid)
  • Beth sydd angen i chi gael mewn lle cyn ymgeisio
  • Pa adnoddau sydd ar gael i'ch cefnogi gyda'ch anghenion hygyrchedd trwy gydol eich prosiect
  • Sut i gofrestru ar y porth ymgeisio
  • Unrhyw gwestiynau eraill a fydd gennych am y gronfa, y canllawiau, neu'r broses ymgeisio

 

Mi fydd pob sesiwn personol yn para 20 munud, ond os oes angen mwy o amser, cysylltwch â ni o flaen llaw. Mi fydd person yn sgrindeitlo'r sesiwn, ac mi fydd aelod o dimau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Disability Arts Cymru yn y sesiwn. Bydd cyfle i restri anghenion hygyrchedd ychwanegol wrth gofrestru - cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr beth mae hyn yn ei olygu. 

 

Mae'r gronfa bellach ar agor ac mi fydd ceisiadau'n cau 3 Tachwedd.

Am unrhyw gwestiynau, e-bostiwch info@wai.org.uk