Cafodd Sean Fwrsariaeth Turner 2020 a bydd Bluecoat yn dod â’i ei sioe Cymru yn Fenis, Undo Things Done, i Lerpwl. Roedd cyflwyniad yr artist yn Fenis yn 2019 yn waith llawn o hanesion personol ar thema lle, gwleidyddiaeth a dosbarth cymdeithasol.

Wrth deithio'r sioe, mae Sean (a aned yng Nghaerdydd ym 1980) wedi ymestyn yr arddangosfa gyda gwaith newydd. Yma yn Bluecoat mae wedi gwahodd yr artist o Gaerdydd, Sadia Pineda Hameed, (a aned yn Llundain ym 1995) i gyflwyno ochr yn ochr ag ef. Mae Sadia’n rhannu diddordeb Sean mewn disgwyliadau ac etifeddaeth.

Mae Sean yn cymryd agwedd gerfluniol at bethau bob dydd. Mae ei wrthrychau amrywiol yn cynnwys canolfan siopa Maelfa o'r 1970au yn Llanedeyrn (ystâd gyngor yng Nghaerdydd lle cafodd ei fagu), albwm Nepreka gan Springsteen, grŵp cwiltio Cymreig, snwcer, papurau newydd poblogaidd ac ati. Mae’n casglu lluniau, storïau, dyfyniadau a darnau o ffilm o archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd. Wedyn mae’n crynhoi’r cwbl yn ei stiwdio a hidlo popeth i greu’r darn terfynol.

Man cychwyn Undo Things Done yw Sean yn cael ei fagu yn Llanedeyrn yn y 1980au gyda’r rhybudd i beidio â disgwyl gormod.

Yn Bluecoat, bydd Sean yn ail-greu’r arddangosfa yn y ddwy oriel fwyaf. Bydd yn cynnwys y Sgrin Gyffesu, ei gwiltiau, ei ddrama radio Refrain o arddangosfa Fenis a chreu gwaith newydd i fynd y tu allan i’r adeilad.

Mae Refrain yn gydgynnyrch â National Theatre Wales sy’n adrodd hanes mam Sean, Lily. Cafodd y ddrama ei ffrydio'n fyw o fflat y fam yn Llanedeyrn i Fenis bob dydd o'r Biennale. Mae’n sôn am ei magwraeth mewn Cartref Plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon a'i bywyd wedyn yng Nghymru, gyda deunyddiau a ddarganfuwyd ac atgofion Sean. Ailddarlledwyd fersiwn newydd o’r ddrama gan BBC Radio ar 4 Rhagfyr 2019.

Bydd Sean hefyd yn dangos gwaith arall, y ffilm fud Maelfa (2011) sydd wedi’i gosod yn yn Llanedeyrn. Codwyd yr ystâd yn y 1970au i roi cyfleusterau cyflawn i'w thrigolion gyda chanolfan siopa, gorsaf yr heddlu, tafarn a llyfrgell. Roedd yn ddelfryd a gafodd yr effaith negyddol o gadw un garfan gymdeithasol ar wahân. Erbyn 2010 roedd y ganolfan siopa’n hanner adfail ac mae’r ffilm yn ei dangos yn ei chyflwr trist sy’n darddiad i Undo Things Done.

Ochr yn ochr â Sean, gwahoddwyd Sadia Pineda Hameed sy’n artist, awdur a churadur o Gaerdydd (a aned yn Llundain ym 1995) i ddangos ei gwaith. Mae'r ddau artist yn sôn am etifeddiaeth, straeon eu mam a phrofiadau plentyndod sy'n llywio'r presennol.

Mae Sadia yn gweithio mewn ffilm, gosodiad, testun a pherfformiad i archwilio trawma torfol ac etifeddol. Mae ganddi ddiddordeb mewn defnyddio breuddwydion, telepathi a chyfrinachau fel ffordd o frwydro yn erbyn gwladychu.

Mae ei ffilm ddiweddaraf, tiny bubbles in the wine (2019), yn portreadu atgofion ei mam o fudo o'r Pilipinas. Mae’n creu cysylltiadau rhwng stori ei mam, yr hanesion llafar lleol a gwaith Cloud Canyons gan David Medalla sy’n dod o'r Pilipinas.

Mae Sadia yn cyflwyno The Song of My Life (2020), fideo newydd am hanesion ei mam. Mae geiriau’n ymddangos ar y sgrin fel mewn fideos carioce. Bydd rhai geiriau’n cael eu canu yn y ffilm ac eraill yn aros yn fud. Mae’n cynnwys yr un themâu a oedd yn ei ffilm arall - straeon am drawma teuluol rhwng y fam a'r ferch.

Agor am 5pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr gyda thaith ar-lein gan Bennaeth y Rhaglen, Marie-Anne McQuay.

Mae Bluecoat yn agored i'r cyhoedd ddydd Mercher tan ddydd Sul gyda diwrnodau eraill ar gael ar gais y cyfryngau.