MovieMaker yw ard­dan­gosiad misol Chapter o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda’r bobl greadigol y tu ôl iddynt. Ar gyfer Deaf Gathering Cymru rhwng 21 a 23 Tachwedd, rydyn ni’n chwilio am wneuthurwyr ffilm byddar i rannu eu gwaith gyda’n cynulleidfa mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae croeso i bob genre a lefel profiad, ac yn ddelfrydol dylai’r ffilm fod yn llai na 15 munud o hyd (ond fe wnawn ni ystyried rhai ychydig yn hirach). Gallwch gyflwyno ffilm am ddim, a byddwn ni’n cynnal trafodaethau ar ôl y dangosiad i roi cyfle i chi rannu eich safbwyntiau gyda’r gynulleidfa.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda dehonglwyr a chapsiynwyr ar gael. Byddwn hefyd yn cysylltu â chi i weld a oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol.

Anfonwch eich ffilmiau ac unrhyw gwestiynau i  moviemaker@chapter.org. Rhaid i ni dderbyn y cyflwyniadau erbyn dydd Gwener 19 Medi. 

Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru gyda Deaf Gwdihŵ,  Heather Williams a Jonny Cotsen, a Chapter.  Mae’r dathliad tri diwrnod ar agor i bawb, ac yn cynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.