Gall profi’r celfyddydau fod yn ysbrydoledig, yn heriol, yn ddeniadol ac yn hwyl, ac mae ganddo ran bwysig i’w chwarae ym mhrofiadau dysgu ein pobl ifanc ble bynnag yng Nghymru y maent yn byw.

Credwn y dylai ein holl blant a phobl ifanc gael y cyfle i gael eu hysbrydoli a’u cyffroi gan y gorau sydd gan y celfyddydau mynegiannol yng Nghymru i’w gynnig. Boed hynny er mwyn ‘rhoi cynnig arni’ ar rywbeth newydd, datblygu eu sgiliau creadigol ac artistig neu feithrin eu lles a’u hunan-barch. Gall natur ddeinamig y celfyddydau mynegiannol ennyn diddordeb, ysgogi ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau i'r eithaf.

Cynlluniwyd Rhowch Gynnig Arni i roi cyfleoedd i ddysgwyr 3 – 16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy untro i gefnogi ysgolion i gyflwyno Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Mae'r gronfa'n ymdrin â phum disgyblaeth: celf; dawns; drama; cerddoriaeth; ffilm a’r cyfryngau digidol.

Gall sefydliad celfyddydol neu ymarferydd creadigol ddarparu'r gweithgarwch a gall ddigwydd un ai yn yr ysgol neu mewn lleoliad addas yng Nghymru. Gall y gweithgarwch fod yn ystod oriau ysgol neu fel gweithgaredd allgyrsiol. Gall y gweithgarwch fod yn un sesiwn neu gael ei gynnal ar draws sawl diwrnod.

Mae’r gronfa’n cynnig grantiau o hyd at £1,500 a gall ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a/neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru wneud ceisiadau.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i Rhowch Gynnig Arni sy'n golygu y gallwch wneud cais am arian ar unrhyw adeg.