Mae cwmni PYST Cyf, sydd yn gyfrifol am Am (cartref digidol diwylliant Cymru) a PYST (prif system ddosbarthu a hyrwyddo digidol cerddoriaeth Cymru) yn falch o gyhoeddi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd. Daw hyn wrth i gyfnod tair blynedd Ffion Dafis fel Cadeirydd y cwmni ddod i ben.

O fis Tachwedd ymlaen, bydd Emily Roberts yn cychwyn fel Cadeirydd newydd. Mae Emily yn gweithio fel Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau i M-SParc ac yn gyfrifol am eu gwaith STEM a sgiliau, gan arwain ar y gwaith sgiliau mewn ysgolion cynradd ac Uwchradd ar hyd Conwy, Gwynedd a Môn, rhedeg yr Academi Sgiliau i greu Swyddi i bobl leol, a rhedeg eu cynllun #ArYLôn, i ddod ac arloesedd i gymunedau gwledig.  Mae Emily wedi bod yn aelod o Fwrdd PYST Cyf am y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Emily: “Dwi’n edrych ymlaen at yr her yma, i gydweithio gyda’r Bwrdd a staff PYST Cyf mewn cyfnod hynod gyffrous.  Mae eu gwaith yn mynd o nerth i nerth, ac felly mae’n amserol i adlewyrchu ar y Bwrdd, a chydweithio i arwain y cwmni yn ei flaen gyda thîm sy’n amlwg yn angerddol dros eu gwaith.”

Mae PYST hefyd heddiw yn cyhoeddi apwyntiad Malachy Edwards fel Is-Gadeirydd cyntaf y cwmni. Mae Malachy yn awdur a cholofnydd i Golwg sydd yn gweithio i undeb llafur yn y sector addysg. Mae Malachy wedi bod yn aelod o Fwrdd PYST Cyf am y 12 mis diwethaf.

Dywedodd Malachy “Fel awdur, mae’n hollbwysig imi weld Cymru ȃ phlatfform digidol fel Am sy’n dathlu’r celfyddydau a diwylliant ein gwlad. Mae’n fraint cael y cyfle i wasanaethu fel Is-gadeirydd, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd wrth i ni barhau ȃ’n taith gyffrous fel Pyst Cyf.”

Wrth sôn am yr apwyntiau newydd dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST Cyf “I ddechrau, hoffwn ddiolch o galon i Ffion am ei chyfraniad anferth dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r cwmni a systemau Am a PYST wedi tyfu yn aruthrol yn y cyfnod yma ac mae arweiniad Ffion wedi bod yn gwbl ganolog i hynny. Mae apwyntiadau Emily a Malachy yn nodi cyfnod newydd a hynod gyffrous yn ein hanes a bydd eu harbenigedd, gweledigaeth ac egni arbennig yn allweddol wrth i ni ddatblygu strategaeth newydd i’r cwmni. Mae hi yn fraint cael gweithio i PYST Cyf ac fe fydd yn fraint arbennig gallu gwneud hynny dan arweinyddiaeth newydd Emily a Malachy.”

Mae PYST Cyf yn gwmni cyfyngedig nid er elw ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru.

www.ambobdim.cymru.   www.pyst.net