- Mae'r Loteri Genedlaethol yn gwneud cyfraniad mawr tuag at yr ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael ag effaith Covid-19
- Darperir yr ariannu ar draws sectorau'r celfyddydau, cymunedol ac elusennol, treftadaeth, addysg yr amgylchedd a chwaraeon - bydd yn helpu'r prosiectau yn y Deyrnas Unedig yr effeithir arnynt fwyaf gan y coronafeirws, y maent yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau
- Disgwylir cyhoeddiadau ariannu pellach i daclo effaith y coronafeirws
Mae elusennau a sefydliadau sydd wedi'u heffeithio gan effaith ddigynsail yr alldoriad coronafeirws yn y DU yn cael mynediad i becyn cynhwysfawr o gefnogaeth gwerth hyd at £600 miliwn gan y Loteri Genedlaethol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd miliynau o bunnoedd o arian y Loteri Genedlaethol yn cael eu dosbarthu dros y misoedd nesaf yng Nghymru'n unig i helpu prosiectau yr effeithir arnynt fwyaf gan y coronafeirws, y maent yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'r pecyn ariannu cynhwysfawr yn ymestyn ar draws sectorau'r celfyddydau, cymunedol, elusennol, treftadaeth, addysg, yr amgylchedd a chwaraeon.
Mae'r pecynnau ariannu a gyhoeddwyd hyd yma a fydd yn helpu prosiectau yng Nghymru'n cynnwys:
- Hyd at £300 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y chwe mis nesaf ar gyfer grwpiau ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhai o Gymru, sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi pobl a chymunedau yn y cyfnod hollbwysig yma.
- Cronfa Argyfwng £50 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ledled y Deyrnas Unedig i ymdrin â phwysau brys yn y sector treftadaeth dros y pedwar mis nesaf a darparu buddsoddiad cynyddol mewn sgiliau digidol hanfodol;
- Ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyfrannu £5.1 miliwn gan y Loteri Genedlaethol at Gronfa Gwytnwch y Celfyddydau gwerth £7.5 miliwn ar gyfer Cymru. Bydd y gronfa'n darparu cefnogaeth i unigolion a sefydliadau a ariannwyd ar gyfer y celfyddydau i'w helpu trwy'r argyfwng Coronafeirws;
- Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon, gyda £4.75 miliwn yn dod o ffynonellau'r Loteri Genedlaethol i ddarparu cefnogaeth ar draws chwaraeon yng Nghymru i sicrhau y gall y genedl barhau'n actif a mwynhau'r holl fanteision iechyd a llesiant a geir trwy chwaraeon; ac mae
- Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) wedi darparu gwerth £4.6 miliwn gan y Loteri Genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig i leddfu'r pwysau brys ar fudiadau ac unigolion yn y diwydiannau sgrîn y maent wedi'u bwrw'n waethaf gan y pandemig, gan amrywio o arian brys i'r rhai sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain y cafodd eu contractau eu canslo'n sydyn i grantiau ar gyfer lleoliadau sy'n denu cynulleidfaoedd y bu'n rhaid iddynt gau'n annisgwyl.
Mae'r ffigurau a amlygir heddiw yn ffurfio'r cyfanswm pecyn ariannu a ddadorchuddiwyd hyd yma - disgwylir cyhoeddiadau ariannu pellach yn y dyfodol.
Codir £30 miliwn ar gyfartaledd bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau, rhai mawr a rhai bach, ledled y wlad. Er na wyddwn eto pa brosiectau'n benodol fydd yn cael yr arian yn gyntaf, mae llawer o brosiectau'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru eisoes wedi bod yn ymaddasu i'r argyfwng gorau y gallant o fewn paramedrau cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:
- Mae prosiect The Tool Shed a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ac a reolir gan Centre for Building Social Action (CBSA) yn Sir Gâr yn draddodiadol yn llyfrgell rhoi benthyg offer, gan wneud crefft cartref ac atgyweirio'n fwy fforddiadwy ar gyfer teuluoedd cymwys sy'n gweithio ar draws Sir Gâr. Ers alldoriad y Coronafeirws, maent wedi sefydlu tudalen Facebook sy'n darparu awgrymiadau ar grefft cartref ac maent hefyd yn defnyddio eu fan (a ddefnyddir fel arfer i gludo offer) i gludo pecynnau bwyd yn y gymuned a phlanhigion a hadau, fel tomatos a riwbob, i bobl sydd eisiau dechrau tyfu pethau gartref. Hefyd, maent wedi dylunio a datblygu bandiau pen arbennig i weithwyr y GIG a staff gofal eu gwisgo o dan eu masgiau wyneb i atal y masgiau rhag gwasgu'n ormodol ar eu croen. Mae eu gwirfoddolwyr yn cael eu tiwtora ar-lein ar sut i ddatblygu'r masgiau.
- Prosiect Celf o'r Gadair Freichiau a leolir gyda Theatr Clwyd yng ngogledd Cymru, sy'n gweithio gydag actorion, cerddorion, gwneuthurwyr gwisgoedd a pheintwyr i ddarparu gweithgareddau positif a chreadigol y profir eu bod yn ysgogol, yn ddiddorol ac yn ddifyr ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia. Wrth ymateb i'r ffaith y gofynnwyd i'w haelodau oedrannus ac agored i niwed hunanynysu, mae'r prosiect wedi bod yn creu ac yn danfon pecynnau creadigol i gartrefi 20 o'u cyfranogwyr gyda dementia sy'n fwyaf agored i niwed. Mae'r pecynnau rhyngweithiol yn cynnwys jig-sos, cardiau, gemau, eitemau gwau, pecyn crefftau a thaflen gyda'r ymarferion cynhesu y maent fel arfer yn eu gwneud yn y dosbarthiadau corfforol.
- Mae cadw'n heini ac yn actif yn ffordd wych o liniaru straen Covid-19. Ac un sefydliad sy'n sicrhau bod ei aelodau'n cael hwrdd cadarnhaol yw Canolfan Ffitrwydd Codi Pwysau Caergybi a Môn ar Ynys Môn. A hwythau'n dilyn canllawiau'r llywodraeth a chau eu drysau ym mis Mawrth, cyhoeddodd y clwb y gallai aelodau fenthyg dymbelau, belau tegell a chyfarpar arall. Mae'n galluogi pobl leol i gadw'n heini ac yn actif, gan gynnwys Barbara Williams sy'n 80 oed, a rannodd ei sesiwn pwysau unigedd cymdeithasol ar Twitter. Bwrw golwg arni yma
- Mae Canolfan Gymuned Eglwys Glenwood yn Llanedern, Caerdydd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi canolbwyntio ei hymdrechion ar ddarparu cefnogaeth i weithwyr allweddol ac aelodau o'u cymuned sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig. Mae eu gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â siop goffi annibynnol leol i gludo bwyd i'r bobl yn y gymuned sydd fwyaf agored i niwed. Mae eu gwirfoddolwyr hefyd yn cadw canolfan ddosbarthu Banciau Bwyd Caerdydd yn Llanedern ar agor ac yn gweithio ar system bydis, gan roi bydis gyda'i gilydd i gael galwadau ffôn wythnosol.
Gan amlygu pwysigrwydd y gefnogaeth i gymunedau ar draws Cymru, meddai, John Rose, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae dosbarthwyr arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru'n ymwybodol iawn o'r effaith ddigynsail y mae'r Coronafeirws yn ei chael ar draws y cymunedau a gefnogwn. Mae'r ffordd y mae grwpiau cymunedol o bob math wedi dod ynghyd i helpu allan yn eu cymunedau wedi'n syfrdanu. Fel arianwyr, rydym yn gweithio'n ddiflin i gefnogi'r prosiectau a ariannwn a lliniaru'r effeithiau cymaint â phosib yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym am roi sicrhad i'n cymunedau ein bod yma o hyd, ein bod yn dal i wneud dyfarniadau ac fe hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth barhaus sy'n galluogi ni i ddarparu arian i bobl a chymunedau a effeithir gan y pandemig."
I gael mwy o wybodaeth am yr amrywiaeth o gefnogaeth ariannu a gyhoeddwyd gan ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol ar draws y DU hyd yma, ewch at wefan Achosion Da'r Loteri Genedlaethol www.lotterygoodcauses.org.uk/coronavirus-pandemic-response
Anogir chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i chwarae ar-lein yn national-lottery.co.uk neu drwy lawrlwytho ap y Loteri Genedlaethol ac i brynu tocynnau mewn siopau dim ond fel rhan o'u taith siopa hanfodol.
Am wybodaeth bellach, astudiaethau achos a chyfleoedd cyfweliad, cysylltwch ag: Oswyn Hughes trwy e-bost oswyn.hughes@lotterygoodcauses.org.uk.