Bydd Cyngor y Celfyddydau yn dosbarthu arian i leoliadau a sefydliadau celfyddydol bach a mawr ledled Cymru ac yn eu plith mae opera, cerddoriaeth, dawns, theatr a syrcas. 

Ar ôl trafod argyfwng ariannol y celfyddydau, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru arian brys o £1.5 miliwn ym mis Hydref. Y Cyngor oedd yn gyfrifol am ddosbarthu’r arian i amddiffyn bywoliaeth artistiaid a chryfhau gwytnwch y sector.

Roedd galw mawr am yr arian a chafodd y Cyngor geisiadau gan 95 sefydliad am gyfanswm o £4.9 miliwn. Wrth weld y galw taer, cytunodd y Cyngor gyfrannu o’i arian cyfyngedig wrth gefn. Ar ôl trafod ymhellach gyda Llywodraeth Cymru, cafodd £1 filiwn arall ganddi. Y cyfanswm felly yw £3.6 miliwn.

Yn y llun o'r chwith: Jack Sargeant AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Cadeirydd Maggie Russell, Cyngor Celfyddydau Cymru, Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru, Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Alison Woods Cyfarwyddwr Gweithredol NoFit State

"Yn sicr, bydd y celfyddydau yn croesawu’r gefnogaeth ariannol yma, ond rydym wrth reswm yn cydymdeimlo â'r sefydliadau sydd heb dderbyn cymorth ariannol y tro hwn," meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Dangosodd y sector wytnwch anhygoel yn wyneb toriad y degawd diwethaf o 40% mewn termau go iawn. Cafodd hyn effaith fawr ar gynlluniau busnes a sicrwydd swyddi yn y sector. 

"Mae ein Hadroddiad Effaith Economaidd yn dangos bod y toriadau’n effeithio ar economi ehangach Cymru ac nid ar sector y celfyddydau yn unig. Yn ôl yr adroddiad, mae gwario punt ar y celfyddydau’n rhoi £2.51 yn ôl i'r economi. Mae’r celfyddydau hefyd yn gwneud cyfraniad anferth at iechyd a lles pobl Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn drwy’r gronfa hon, sy’n hwb i hyder y sector ac rydym yn diolch i’r Gweinidog am ei ymateb prydlon i'r argyfwng.”

Bydd sefydliadau ledled Cymru yn cael budd o’r gronfa, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr, Coed Duon,  Theatr a Chanolfan gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Syrcas NoFit State, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Gelfyddydol Glannau Afon Gwy, Llanfair-ym-Muallt, Syrcas Cimera, Caernarfon, Wrexham Sounds ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ymysg eraill.  

Mae rhestr lawn o'r 60 sefydliad a fydd yn derbyn arian o’r Gronfa Amddiffyn Swyddi a Magu Gwytnwch yma

Dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth "Mae sector y celfyddydau yn gwneud cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pwysig iawn. Mae’n cyfoethogi ein cymunedau ac yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

"Er gwaethaf y pwysau ariannol, dwi’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi rhai o’n sefydliadau celfyddydol anwylaf a mwyaf talentog gyda'r arian ychwanegol i wella eu gwytnwch yn wyneb y problemau parhaus. 

"Yn fuan, byddwn yn cyhoeddi rhagor o gymorth i'r sector yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru."