Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl: Prentis Technegol(Pwyslais ar Lwyfan) (Cytundeb Llawn Amser - 12 Mis)
Cyflog: £13,741 (35 awr yr wythnos)
Dyddiad Cau: 9 Gorffennaf
Dyddiad Asesu: 29 Gorffennaf a 5 Awst
Dyddiad Dechrau: 6 Hydref 2025 – Wythnos Sefydlu

I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn a wnawn yn CMC, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/ein-hadeilad-an-pobl/gyrfaoedd-a-swyddi

Amdanom Ni/Ein Hadran

Fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf eiconig a mwyaf adnabyddus y DU, mae rhan o’n llwyddiant yn deillio o’n hymrwymiad i roi cyfle i bobl ddatblygu a ffynnu.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gefnogi talent ddatblygol o Gymru gyda phrofiadau dysgu sy’n newid bywydau, gweithdai proffesiynol, a phrentisiaethau technegol. Mae gennym brentisiaid technegol wedi’u lleoli yma yn y Ganolfan ar hyn o bryd (ar y cyd gydag Opera Cenedlaethol Cymru), ond hefyd gyda nifer o sefydliadau partner ledled Cymru. Rydym yn gyffrous i gynnig prentisiaeth o fewn ein hadran dechnegol, sy’n gyfrifol am ddarparu cymorth technegol ar brosiectau a leolir yn ein Theatr Donald Gordon, Stiwdio Weston a llwyfannau cyflwyno eraill.

Mae ein Prentisiaid Technegol (Llwyfan) presennol wedi cwblhau lleoliadau yn ddiweddar gyda chynyrchiadau teithiol fel Wicked a Hamilton, ac wedi cefnogi nifer o sioeau a gynhyrchwyd yn fewnol fel Pontypool a Chabaret The Nutcracker ar gyfer CMC a The Marriage of Figaro a Peter Grimes gydag Opera Cenedlaethol Cymru, gyda’r potensial i fynd ar daith nes ymlaen. I gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun prentisiaeth ewch i - https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/ein-hadeilad-an-pobl/gyrfaoedd-a-swyddi/prentisiaethau-technegol

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Prif bwrpas y rôl hon yw datblygu sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy i’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa dechnegol, trwy ddarparu cyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar waith mewn meysydd sy’n benodol i gynyrchiadau a phrosiectau byw. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar feysydd sy’n ymwneud â Chrefft Llwyfan, Sain a Goleuo – gyda chyfle i ymweld ag adrannau eraill gan gynnwys Rheoli Llwyfan a Gwisgoedd.

Mae llwyddiant CMC, a’i gallu i ddenu artistiaid a chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol dro ar ôl tro, yn ddibynnol i raddau helaeth ar ansawdd ac ymatebolrwydd ei gwasanaethau technegol. Nod CMC yw bod yn ddewis cyntaf o ran lleoliad ar gyfer cyflwynwyr digwyddiadau a pherfformiadau.

Dylai deiliad y swydd ddisgwyl cwblhau gwaith cwrs, asesiadau a modiwlau hyfforddi fel rhan o'u diwrnod gwaith, er mwyn ennill cymhwyster Lefel 3.

Bydd y rhai nad ydynt wedi sicrhau TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg a TG yn ymgymryd â gweithdai sgiliau amrywiol hanfodol i gael tystysgrif gyfatebol.

* Nid yw unigolion sydd â gradd (BA neu MA) mewn pwnc cysylltiedig (Theatr Dechnegol neu Berfformio, Dylunio Setiau/Gwisgoedd/Clyweledol ac Astudiaethau Teledu neu Ffilm) a’r rhai sy’n byw y tu allan i ardal De Cymru yn gymwys i wneud cais ac ni chânt eu hystyried. *
Mae ceisiadau yn agored i rai 16+ oed (rhoddir blaenoriaeth i rai rhwng 18 a 30 oed).

O ddydd i ddydd byddwch yn adrodd i’r Cydlynydd Prentisiaid a Hyfforddiant, sy'n goruchwylio'r rhaglen prentisiaid i sicrhau bod unigolion yn cyrraedd eu targedau ymarferol ac asesu. Mae'r Cydlynydd hefyd yn gyfrifol am eich amserlen hyfforddiant proffesiynol a fydd yn cynnwys teithiau i ffwrdd o'r Ganolfan.

Dros y 12 mis, byddwch wedi cwblhau nifer o weithdai hyfforddi proffesiynol ac ardystiadau megis Gwobr Efydd ABTT ynghyd â chymhwyster Profion PAT a CRISP IOSH ymhlith eraill. Mae’n bosib y bydd cyfle i chi hefyd fynychu sioe fasnach yn y Gwanwyn/Haf. Er yn amodol ar amserlenni hyfforddi, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio ar gynyrchiadau fel War Horse (National Theatre) a Mary Poppins (Disney).
 


Gofynion Allweddol:Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael i gychwyn ar 6 Hydref, sef Wythnos Sefydlu.

Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i fynychu diwrnod asesu ar 29 Gorffennaf neu 5 Awst er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad.

Mae oriau gwaith prentis yn amrywio ychydig o wythnos i wythnos, yn dibynnu ar ofynion y cynhyrchiad y maent yn gweithio arno. Rhaid pwysleisio nad rôl 9-5 yw hon, felly rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried o ddifrif a yw'r math hwn o waith yn addas ar eu cyfer pe bai gwrthdaro. Rydym hefyd yn eich annog i feddwl am eich trefniadau teithio ac a yw'n ymarferol/bosib i chi ar yr adeg hon.

Mae'r meini prawf y byddwn yn defnyddio i’ch gwerthuso yn gymharol hyblyg. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o theatr dechnegol cefn llwyfan a pha feysydd penodol sydd o ddiddordeb i chi a pham. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu dysgu neu ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan y byddwch yn gweithio mewn sefydliad mawr gyda phobl o wahanol gefndiroedd, safbwyntiau a hunaniaeth.

Yn olaf, dylech ddangos tystiolaeth o agwedd dda a pharodrwydd i weithio’n broffesiynol, dysgu sgiliau newydd, a dilyn gwaith cwrs.

 

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sydd yn uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Dyddiad cau: 09/07/2025