Mae POWER UP! yn fenter newydd i gefnogi pobl dduon sy’n creu cerddoriaeth a gweithio yn y diwydiant gyda grantiau. Bydd hefyd yn mynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl dduon yn y sector. Bydd partneriaeth POWER UP!, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymru Greadigol yn gwneud y diwydiant yn decach a diwallu anghenion pobl dduon yno.
Cynhaliwn ddau grŵp ffocws er mwyn:
- Mapio gwaith a phrosiectau cerddorol yng Nghymru
- Trafod anghenion pobl dduon sy’n creu cerddoriaeth a gweithio yn y diwydiant
- Cael gwybod am y cymorth mwyaf ei angen ar bobl dduon yno
I gadw eich lle yn y sesiwn berthnasol i chi:
Sefydliad/cydweithfa/diwydiant sy'n cefnogi cerddorion duon: 31 Ionawr 5-6yp : https://www.eventbrite.com/e/power-up-information-session-and-qa-for-industry-professionals-tickets-255265404697
Pobl dduon sy’n creu cerddoriaeth: 1 Chwefror 5-6yp: https://www.eventbrite.com/e/power-up-information-session-and-qa-for-artists-and-producers-tickets-255320990957