Mae plant a phobl ifanc ag anhwylderau bwyta, rhieni newydd sy’n wynebu problemau iechyd meddwl a staff y GIG sy’n prosesu trawma ymhlith y rheini sy'n defnyddio pŵer y celfyddydau i wella eu llesiant drwy raglen ‘Celf a’r Meddwl’ yng Nghymru ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Mae'r gronfa gelfyddydol ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, sydd heddiw yn cyhoeddi trydedd flwyddyn o gyllid ar gyfer byrddau iechyd, wedi cefnogi prosiectau iechyd meddwl creadigol ar draws pob un o saith bwrdd iechyd Cymru ers 2021.

Ymhlith y rhai sydd wedi elwa hyd yma y mae plant a phobl ifanc yng Ngorllewin Cymru sy’n byw gydag anhwylderau bwyta, gorbryder ac iselder, sydd, ochr yn ochr ag artistiaid, wedi bod yn defnyddio animeiddio a symudiadau o’r awyr i wella eu llesiant, i ddatblygu sgiliau ymdopi creadigol ac i wella eu gwytnwch drwy brosiect ‘Hwb Celf’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae prosiect gwobredig ‘Rhannu Gobaith’ Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi darparu mynediad i sesiynau creadigol wythnosol, galw heibio ac un-i-un, yn ystod oriau gwaith i gannoedd o staff y GIG sydd wedi profi trawma a hwyliau isel. O dan arweiniad artistiaid, mae’r cynllun yn cefnogi iechyd meddwl staff, a’u galluogi i aros yn y gwaith neu ddychwelyd yn raddol ar ôl cyfnod o absenoldeb.

Ymhellach i'r dwyrain, mae prosiect Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi'r cyfle i rieni newydd sydd â chyflyrau iechyd meddwl cymedrol i fondio gyda'u babanod, i wneud ffrindiau newydd ac i ymlacio drwy sesiynau creu cerddoriaeth a chelf a gefnogir gan seicolegydd cynorthwyol ac artistiaid llawrydd. Ac yng Ngogledd Cymru, mae cleifion gwrywaidd mewn uned iechyd meddwl ddiogel wedi bod yn prosesu eu teimladau, yn mynegi eu hunain ac yn cofnodi eu profiadau drwy gerddoriaeth rap, animeiddio a chreu ffilmiau gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.


“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bartner i Sefydliad Baring wrth barhau i gefnogi byrddau iechyd Cymru, wrth iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd newydd ysbrydoledig ac amrywiol o ymateb i'r blaenoriaethau iechyd meddwl yn eu cymunedau, ac o fewn eu gweithluoedd eu hunain,” dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen celfyddydau, iechyd a llesiant Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rydyn ni'n gwybod na all yr heriau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru gael eu datrys dros nos neu drwy un rhaglen neu weithgaredd yn unig. Ond mae’r dystiolaeth gynyddol sy’n deillio o Celf a’r Meddwl yn tanlinellu’r rôl bwerus y gall y celfyddydau ei chwarae wrth gefnogi ein hiechyd meddwl a’n llesiant ar hyd ein hoes ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.  Mae gweithgareddau creadigol o fewn y GIG yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ddefnyddwyr gwasanaethau anghofio am eu straen bob dydd, i gysylltu ag eraill ac i ddod o hyd i ffynhonnell ddyrchafol i fynegi eu hunain. Wrth symud ymlaen, ein gobaith yw y bydd ymyriadau creadigol yn cael eu gwreiddio’n elfen gyson o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae corff cynyddol o dystiolaeth i gadarnhau effaith bositif y celfyddydau a chreadigrwydd ar ein hiechyd a’n llesiant corfforol a meddyliol. Am chwe blynedd, mae memorandwm
cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chonffederasiwn GIG Cymru wedi helpu i ysgogi mwy o gydweithio rhwng y ddau sector yng Nghymru ac wedi arloesi â dulliau newydd o ymdrin â'r celfyddydau, iechyd a lles sy'n cael eu gwylio â diddordeb ar draws y byd.


Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant: "Mae'n wych y bydd rhaglen y Celfyddydau a'r Meddwl yn parhau i gefnogi byrddau iechyd i ddarparu prosiectau iechyd meddwl creadigol am y drydedd flwyddyn. Mae’n helpu pobl i gyfathrebu a phrosesu eu meddyliau a'u teimladau i fagu cysylltiadau cymdeithasol. Gall y celfyddydau gael effaith gadarnhaol wych ar ein hiechyd meddwl a'n lles."

Ychwanegodd David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad Baring: “Mae'r celfyddydau ac iechyd meddwl yn ffynnu yng Nghymru, gyda'r bartneriaeth strategol rhwng y GIG a’r celfyddydau   yn chwarae rôl allweddol a chyffrous. Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio mewn partneriaeth am y drydedd flwyddyn gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar y rhaglen Celf a’r Meddwl ac i weld prosiectau Celf a’r Meddwl yn ffynnu ac yn cael eu cydnabod am y cymorth y maen nhw’n ei ddarparu.”