Mae'n bleser gan y Cyngor gyhoeddi penodiad Sian Tomos yn Brif Weithredwr.

Bydd yn olynu Nick Capaldi a fydd yn ymadael â’r swydd dros yr haf o fod wedi cyhoeddi hynny ym mis Rhagfyr 2020.

Ar hyn o bryd mae Sian yn Gyfarwyddwr (Datblygu'r Celfyddydau) y Cyngor ac yn gyfrifol am Bortffolio Celfyddydol Cymru, y Celfyddydau ac Iechyd, Llywodraeth Leol. Partneriaethau Cyhoeddus, y Gymraeg, Yr Amgylchedd, Ailadeiladu Cymunedol a’r Diwydiannau Creadigol. Mae’n eiriolwr dros Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru sy’n defnyddio egwyddor datblygu cynaladwy er mwyn hybu iechyd a lles. Ymunodd â’r Cyngor pan sefydlwyd y Cyngor yn wreiddiol. Cyn mynd yn gyfarwyddwr, hi oedd Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gogledd am dros 10 mlynedd.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor:

"Dwi wrth fy modd mai Sian fydd ein Prif Weithredwr newydd. Roedd pob ymgeisydd yn dda, ond gwnaeth Sian argraff ar y panel gyda'i gweledigaeth, ei chynhesrwydd, ei dealltwriaeth o gydweithiol a'i hymrwymiad i hygyrchedd i'r celfyddydau.

"Mae ganddi angerdd dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a thros Gymru o gymunedau amrywiol sy’n ymgysylltu â'r celfyddydau. Bydd ei phrofiad a'i hanes o gyflawni yn gaffaeliad iddi arwain y Cyngor ac eiriol dros y sector. Bydd yn ein llywio ar hyd y daith at Gymru decach a chynhwysol.

"Hoffwn ddiolch i Nick Capaldi am ei gyfraniad gwych at gelfyddydau Cymru dros y blynyddoedd. Defnyddiai arian cyhoeddus yn ddarbodus i greu amgylchedd iach i'r celfyddydau ffynnu ac arweiniai’n glir yn ystod y pandemig."

Bydd Sian yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Medi.

Diwedd                                                                                                           10 Mehefin 2021