Mae Galeri Caernarfon Cyf heddiw (22 Medi) wedi cyhoeddi ei Cyfarwyddwr Artistig newydd: Mari Elen Jones.  

A hithau’n wneuthurwr a pherfformiwr theatr, yn un o aelodau Cwmni Tebot a chrëwr y podlediad ‘Gwrachod Heddiw’, bydd Mari’n dod ag ystod eang o brofiad i’w rôl.  

Drwy guradu rhaglen artistig y Cwmni, bydd y rôl yma’n siapio profiad ymwelwyr y Ganolfan Gelfyddydol, yn ogystal â gweithio fel catalydd i ganfas celfyddydol Caernarfon a’r ardal — drwy gydweithio â phartneriaid allweddol yn y dref a thu hwnt.   

Rhwng portffolio eiddo’r Cwmni a phrydles hir dymor pentref siopa artisan Cei Llechi mae ystod y swydd yn eang a chyffrous iawn. 

Wrth ymroi i’r daith newydd hon, meddai Mari: “Yn yr oes sydd ohoni dwi’n teimlo bod hi’n bwysig i bobl ddod at ei gilydd i fwynhau a chael dianc, ac i mi, does ‘na ddim dihangfa well na’r celfyddydau.  

“Fy mwriad ydy datblygu rhaglen sydd yn mynd i gynnig rhywbeth i bawb — gan gyffroi cynulleidfaoedd, meithrin yr ymdeimlad o gymuned a sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu cynrychioli trwy arlwy greadigol Galeri. Wrth agor y drysau i bawb a chydweithio hefo artistiaid, cwmnïau a’r gymuned leol bydd Galeri’n byrlymu, ffynnu ac ehangu ei gorwelion.”  

Mae Mari’n wyneb cyfarwydd yn Galeri yn dilyn ei hamser yn gweithio fel Cydlynydd Sbarc, theatr ieuenctid Galeri. Wrth ddychwelyd, bydd hi’n ail-gysylltu hefo tîm a chenhadaeth sy’n agos iawn at ei chalon.  

Ychwanegodd Mari: “Mae Galeri yn adeilad eiconig yma yn Arfon sydd wedi rhoi profiadau arbennig i mi dros y blynyddoedd ac atgofion gwych o weithio hefo Sbarc, Cain a mwy. Ond rhaid cofio mae Galeri yn fwy nag adeilad — mae o wedi bod yn lloches greadigol i bobl o’r un anian â fi sy’n ysu am gysylltiad; hwb reit yng nghanol Caernarfon sy’n cynnig ei hun fel calon y gymuned artistig yng Ngogledd Orllewin Cymru. Dwi wir yn edrych ymlaen at lywio'r ochr greadigol ym mhennod nesaf Galeri.”  

Daw wrth i dîm a llwyddiant Galeri dyfu dan arweiniad y Prif Weithredwr, Nia Arfon — gyda dros 30% yn fwy o docynnau wedi’u gwerthu yn hanner cyntaf 2025 na’r un cyfnod y llynedd.  

Dywedodd Nia: “Deinamig, egnïol a gwreiddiol — dyna’r gwerthoedd sydd am wthio cwmni Galeri i'w phennod nesaf, a’r union werthoedd gyflwynodd Mari i ni fel rhan o’r broses gyfweld. Corff sy’n sbarduno twf economaidd a chymdeithasol ydy Galeri, a gyda Mari’n rhan o’r uwch dîm, rydym yn hyderus bydd modd i ni gyd-blethu profiadau creadigol a diwylliannol i ffyniant yr ardal leol. Croeso cynnes iawn i ti, Mari!”  

Bydd Mari yn cychwyn yn ei swydd dros gyfnod yr Hydref.   

I ddysgu fwy am waith Galeri Caernarfon Cyf, ewch i: Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd